Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Ceisiadau ar agor ar gyfer ein Rhaglen Llwybrau i Hyfforddeion newydd

06 Mai 2026
  • Rydym nawr yn recriwtio ar gyfer ein Rhaglen newydd Llwybrau i Hyfforddeion.

    Mae’n rhaglen bum mlynedd a ariennir yn llawn sy'n cynnig llwybr amgen i gyfrifeg i bobl sy'n edrych i ddechrau neu newid eu gyrfa heb fynd i'r brifysgol. 

    Mae gennym swyddi gweigion mewn dau leoliad, yng Ngogledd Cymru yn ein swyddfa yng Nghyffordd Llandudno ac yn Ne Cymru yn ein swyddfa yng Nghaerdydd. 

    Pam ddewis ein rhaglen?

    Bydd gennych brofiad ymarferol o weithio gyda chyrff cyhoeddus ledled Cymru, wrth astudio tuag at gymhwyster Cyfrifeg Siartredig (ACA) yr ICAEW. Ochr yn ochr â hyfforddiant proffesiynol, mae hyfforddeion hefyd yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth, yn cwblhau cymhwyster ILM Lefel 3, ac yn elwa o rwydwaith cymorth cymheiriaid cryf. 

    Mae gennym becyn buddion gwych, gan gynnwys cyflog hael, gweithio hyblyg, diwylliant cynorthwyol, buddion rhagorol, a ffocws cryf ar ddysgu a datblygiad.

    Beth yr ydym yn chwilio amdano?

    Yn ogystal â'r cymwysterau academaidd perthnasol, rydym yn chwilio am unigolion llawn cymhelliant sy'n angerddol am y sector cyhoeddus yng Nghymru ac sydd eisiau gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol. 

    Mae'r rhaglen yn agored i ymgeiswyr nad oes ganddynt radd, ac mae croeso i geisiadau yn y Gymraeg neu yn y Saesneg.

    Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer ein hymgeiswyr yn Ne Cymru yw 26 Mai 2026 ac ar gyfer Gogledd Cymru 31 Mai 2026. 

    Canfuwch fwy ar ein gwefan