Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyflwyno ar lywodraethu da yn y sector cyhoeddus yn weminar ICAEW

25 Ionawr 2021
  • Ar 26 Ionawr, bydd ein Harchwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton, yn cymryd rhan mewn gweminar a drefnir gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) ar 'Sut mae Archwilio Cymru yn rhyngweithio â Chyfarwyddwyr Anweithredol/Llywodraethu Da yn y Sector Cyhoeddus'.

    Y gweminar yw'r nesaf mewn cyfres a drefnwyd gan ICAEW sy'n edrych ar swyddogaeth Cyfarwyddwyr Anweithredol yn y sector cyhoeddus.

    Bydd Adrian yn rhoi cyflwyniad byr ar yr heriau presennol sy'n wynebu'r sector cyhoeddus yng Nghymru, sut y gall Cyfarwyddwyr Anweithredol gyfrannu at lywodraethu effeithiol a swyddogaeth Archwilio Cymru a sut y gallai ein gwaith fod yn ddefnyddiol i Gyfarwyddwyr Anweithredol.

    Wedi’r cyflwyniad, bydd sesiwn holi ac ateb gyda Chyfarwyddwr Sector Cyhoeddus ICAEW dros y DU, Alison Ring OBE FCA.

    Mae'r gweminar yn rhad ac am ddim ac yn agored i unrhyw un ymuno â hithau.

    Amseriadau a sut i ymuno â'r gweminar:

    Dyddiad: 26 Ionawr 2021

    Amser: 12 i 1 o’r gloch yp

    Gallwch archebu lle i fynd i’r gweminar a gofyn eich cwestiynau drwy wefan yr ICAEW [yn agor mewn ffenestr newydd]