Ymunwch â’n tîm Cyfnewidfa Arfer Da

09 Tachwedd 2020
  • Ydych chi'n chwilio am gyfle newydd?

    A oes gennych sgiliau rhyngbersonol gwych a brwdfrydedd dros wella gwasanaethau cyhoeddus? Yna fe allai swydd yn ein Tim Cyfnewidfa Arfer Da fod yr un i chithau.

    Ynglŷn â'r swyddi:

    Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth

    Fel Swyddog Cyfnewid Gwybodaeth [agorir mewn ffenest newydd] byddwch yn defnyddio'ch sgiliau rhyngbersonol i ymchwilio a chael mewnwelediad sy'n allweddol i gyflawni ein rhaglen o ddigwyddiadau. Byddwch yn creu cynnwys gwybodaeth sy'n werthfawr ac yn ddefnyddiol i randdeiliaid allweddol ac a all ddylanwadu ar newid ar draws y sector cyhoeddus.

    Dyddiad cau: 1 Medi 2019

    Profiad Gwaith Cyfnewidfa Arfer Da, dros dro am 12 mis

    A ydych chi'n gyfathrebwr da gyda dawn greadigol i rannu gwybodaeth yn hawdd ac i ystod eang o gynulleidfaoedd? Yna, ymunwch â'n Tîm Cyfnewidfa Arfer Da ar gyfle profiad gwaith [agorir mewn ffenest newydd] lle bydd eich sgiliau trefnu anhygoel yn allweddol i gyflawni ein rhaglen o ddigwyddiadau.

    Dyddiad cau: 1 Medi 2019

    Dysgwch fwy am y cyfleoedd arbennig hyn a gwnewch gais arlein.