Ymunwch â’n tîm Adnoddau Dynol

09 Tachwedd 2020
  • Ydych chi'n chwilio am gyfle newydd mewn adnoddau dynol?

    Mae'n amser gwych i ymuno a'r tîm Adnoddau Dynol wrth i ni fynd drwy gyfnod cyffrous o newid a thrawsnewid.

    Ynglŷn â'r swyddi

    Gweinyddwr Adnoddau Dynol

    Rydym yn awyddus i recriwtio Gweinyddwr Adnoddau Dynol [agorir mewn ffenestr newydd] rhan-amser (17.5 awr yr wythnos) yn barhaol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi dyletswyddau gweinyddol y tîm adnoddau dynol ac yn ymateb i ymholiadau defnyddwyr gwasanaethau.

    Dyddiad cau: 23 Gorffennaf 2019

    Swyddog Adnoddau Dynol

    Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Adnoddau Dynol [agorir mewn ffenest newydd] rhan-amser (21 awr yr wythnos) yn barhaol yn ein tîm Adnoddau Dynol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi’r tîm adnoddau dynol ar draws ystod o feysydd nodweddiadol adnoddau dynol megis recriwtio, dysgu a datblygu, cynllunio gweithlu, adolygu polisïau a gwaith achos.

    Dyddiad cau: 23 Gorffennaf 2019

    Prentis Gweinyddu Busnes

    Ydych chi’n chwilio am gyfle i feithrin sgiliau swyddfa tra rydych yn hyfforddi i ennill cymhwyster Gweinyddu Busnes? Os felly, efallai mai Prentisiaeth Gweinyddu Busnes [agorir mewn ffenest newydd] yn Swyddfa Archwilio Cymru yw'r swydd i chi! Ar hyn o bryd, mae swyddi ar gael yn y meysydd hyn: Adnoddau Dynol, Gwasanaethau Busnes.

    Dyddiad cau: 6 Awst 2019

    Dysgwch fwy am y cyfleoedd arbennig hyn a gwnewch gais arlein.