Ydych chi'n chwilio am her newydd? Ymunwch â ni yn Archwilio Cymru.

30 Mawrth 2023
  • Rydym yn edrych i benodi Uwch Archwilwyr ac Archwilwyr Arweiniol Ariannol i ymuno â'n tîm. Ar hyn o bryd mae gennym gyfleoedd gyrfa cyffrous yma yn Archwilio Cymru, gyda swyddi wedi eu lleoli yn ein tîm y Gogledd

    Uwch Archwilwyr

    Rydym yn edrych i recriwtio Uwch Archwilwyr parhaol a thymor sefydlog i ymuno â ni. Byddwch yn gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad naill ai mewn archwilio neu o fewn lleoliad cyfrifyddu. Mae profiad y sector cyhoeddus yn ddymunol ond nid yw'n hanfodol.

    Archwilwyr Arweiniol Ariannol

    Rydym hefyd yn edrych i recriwtio Archwilwyr Arweiniol Ariannol parhaol. Yn bennaf byddwch yn arwain timau wrth ddarparu gwaith archwilio ariannol mewn nifer o gyrff sector cyhoeddus.

    Rydym yn edrych am gyfrifydd CCAB cymwys gyda phrofiad o oruchwylio a hyfforddi staff.

    Ar gyfer y ddwy swydd mae angen rhywun arnom sydd wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i'r sector gyhoeddus drwy feddu ar ddyfarniad gadarn a sgiliau dadansoddol a chyfathrebu rhagorol.

    Pam ymuno ag Archwilio Cymru?

    Mae Archwilio Cymru yn lle gweithgar a chyfeillgar i weithio ynddo, gyda diwylliant hynod gefnogol. Rydym yn frwdfrydig am weithio gyda sector cyhoeddus Cymru a gwneud gwahaniaeth i gymunedau lleol.

    Yn Archwilio Cymru rydym yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig manteision gweithio hael sy'n darparu amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Rydym yn hyblyg – Rydym yn gweithio'n Gallach. Rydym yn cynnig Telerau Rhagorol gan gynnwys wythnos waith 35 awr, a 33 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn (heb gynnwys gwyliau banc cyhoeddus).

    Rydym yn buddsoddi yn ein Pobl ac o blaid datblygiad personol a phroffesiynol. Rydym yn cynnig cyfle i bob gweithiwr ymuno â Chynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil. Mae ein buddion staff hefyd yn cynnwys cynllun beicio i'r gwaith, gostyngiadau siopa a'r opsiwn i gael cerbyd drwy ein cynllun prydles buddiol ymhlith llawer mwy.

    Rydym yn Falch o gael Achrediad – Rydym yn gyflogwr ‘Working Families’ a ‘Change 100’ balch ac rydym wedi llwydo i gael achrediad Cyflog Byw.

    Rydym yn tyfu gweithlu amrywiol sy'n cynrychioli'r cymunedau rydym yn gweithio ynddynt a'r sgiliau, y profiadau a'r safbwyntiau y maent yn eu cynnig ac yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir. Rydym hefyd yn aelod o'r Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac yn gwarantu y byddwn yn cyfweld pob ymgeisydd anabl sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd.

    Am ragor o fanylion 

    Uwch Archwilwyr [Agorir mewn ffenest newydd]

    Archwilwyr Arweiniol Ariannol [Agorir mewn ffenest newydd]