Rydym yn chwilio am dri chyfarwyddwr newydd i ymuno â'n timau

Ydych chi'n frwdfrydig am sbarduno newid yn y sector cyhoeddus?
Neu eisiau defnyddio eich sgiliau a'ch profiad i wneud gwahaniaeth i gymunedau yng Nghymru?
Rydym yn chwilio am Gyfarwyddwr Archwilio (Archwilio Perfformiad) a dau Gyfarwyddwr Archwilio (Cyfrifon) i ymuno â'n timau.
Mwy am y swyddi
Fel Cyfarwyddwr Archwilio Perfformiad, byddech yn cyfrannu at ddatblygu a darparu rhaglen waith ehangach y gwasanaethau archwilio. Ar ben hyn, byddai disgwyl i chi gyfrannu at ddatblygu a darparu ein rhaglen waith gwasanaethau archwilio ehangach. Bod yn bennaf gyfrifol am un o dri thîm archwilio perfformiad ac am weithgarwch ymchwil a datblygu mewn sector (sef, llywodraeth leol, cymunedau, tai ac addysg, ar hyn o bryd).
Rydym hefyd yn recriwtio ar gyfer dau Gyfarwyddwr Archwilio (Cyfrifon). Fel Cyfarwyddwr Archwilio Cyfrifon, byddai gennych y prif gyfrifoldeb am bortffolio o waith archwilio, gan gynnwys darparu cyfrifon ariannol a gwaith trefniadau priodol. Mae’r Gymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r swyddi hyn.
Am beth yr ydym yn chwilio?
Yn atebol i Gyfarwyddwr Gweithredol y Gwasanaethau Archwilio ac i Archwilydd Cyffredinol Cymru, byddech yn rhan o Dîm Cyfarwyddwr ar y cyd sy'n ategu'r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol drwy ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol ar draws y sefydliad.
Rydym yn chwilio am ymgeiswyr a fydd yn modelu ein gwerthoedd a'n hymddygiad sy'n sail i'r gwaith a wnawn ac yn cynnal ein diwylliant o hyfforddi a datblygu ac yn defnyddio arweinyddiaeth strategol i ysgogi a helpu cydweithwyr i wireddu eu potensial fel sbardun i wella gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Pam Archwilio Cymru?
Fel Cyfarwyddwr yn Archwilio Cymru, byddwch yn rhan o dîm y mae ei waith yn cyfrannu'n gadarnhaol at ysbrydoli a grymuso gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Byddwch hefyd yn rhan o sefydliad sy'n annog ac yn ategu eich dysgu a'ch datblygiad, yn broffesiynol ac yn bersonol, ac yn hyrwyddo cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Rydym yn cynnig pecyn budd-daliadau a gwobrau trawiadol, gan gynnwys 33 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, y gallwch gael rhagor o wybodaeth amdano ar ein tudalennau gweithio i ni.
Os yw'r cyfle hwn yn swnio'n gyffrous i chi, gallwch gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais drwy ein gwefan.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 26 Ionawr 2022.