Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Unwaith eto, methodd pedwar o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru â chyflawni eu dyletswydd ariannol i beidio â gorwario dros gyfnod o dair blynedd, yn ôl eu cyfrifon ar gyfer 2019-20 a gyhoeddwyd heddiw.
Ar draws GIG Cymru, disgynnodd cyfanswm y diffyg o fewn y flwyddyn o £96 miliwn yn 2018-19 i £89 miliwn. Disgynnodd y gorwariant cronnus dros gyfnod o dair blynedd ar draws y GIG o £411 miliwn i £352 miliwn.
Mae’r ffigurau hyn i gyd wedi’u nodi mewn offeryn data newydd [agorir mewn ffenestr newydd] y mae’r Archwilydd Cyffredinol yn ei gyhoeddi heddiw.
Roedd gwariant refeniw Llywodraeth Cymru ar iechyd £650 miliwn yn fwy ar gyfer 2019-20. O ystyried chwyddiant, roedd hynny’n gyfwerth â chynnydd o 6.8% mewn termau real. Fodd bynnag, roedd y cyllid ychwanegol hwnnw’n cynnwys sawl dyraniad unigol ar gyfer gwasanaethau penodol, yn hytrach na chynnydd cyffredinol ar gyfer rhedeg y GIG o ddydd i ddydd.Roedd y dyraniadau dan sylw’n cynnwys £170 miliwn i dalu costau pensiwn ychwanegol, £95 miliwn ar gyfer dyfarniadau cyflog a £52 miliwn i hybu perfformiad gwell, yn enwedig yng nghyswllt amserau aros am driniaeth ddewisol. At hynny, dyrannodd Llywodraeth Cymru £192 miliwn ychwanegol i helpu i integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol a thrawsnewid gwasanaethau’n ehangach, a bydd rhywfaint o’r cyllid hwnnw’n cael ei rannu â llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r buddsoddiad hwnnw esgor ar welliannau tymor hwy i gost-effeithiolrwydd gwasanaethau iechyd a gofal.
Adroddodd cyrff y GIG eu bod, ar y cyd, wedi sicrhau gwerth £130 miliwn o arbedion yn 2019-20. Roedd hynny oddeutu £18 miliwn yn llai na’r arbedion a sicrhawyd yn 2018-19. Disgynnodd swm yr arbedion rheolaidd, a fydd yn parhau yn ystod y blynyddoedd a ddaw, yn sylweddol: o £125 miliwn yn 2018-19 i £87 miliwn yn 2019-20. Mae hynny’n dangos bod y GIG yn ei chael yn anodd dod o hyd i arbedion cynaliadwy drwy wneud newidiadau gweithredol hirdymor.
Er i’r pandemig COVID-19 ddechrau ym mis Chwefror, roedd effeithiau’r pandemig yn syth ar sefyllfa ariannol GIG Cymru yn gyfyngedig. Yn gyffredinol, roedd gwariant cyrff y GIG yn ystod chwarter olaf 2019-20 yn cyd-fynd i raddau helaeth â’u rhagolygon cyn y pandemig. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl y bydd effaith y gwariant ychwanegol sylweddol oherwydd COVID-19 yn fawr yn ystod blwyddyn ariannol 2020-21.
Yn ogystal â’r ffaith iddynt fethu â chyflawni eu dyletswydd ariannol i beidio â gorwario dros gyfnod o dair blynedd, methodd tri o’r cyrff – Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gynt) – â chyflawni eu dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod ganddynt gynllun tair blynedd cymeradwy. O ganlyniad, mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod amodi ei farn archwilio am gyfrifon pob un o’r tri chorff hynny.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi gwneud cynnydd cadarnhaol. Llwyddodd i beidio â gorwario ar sail ei gyllideb flynyddol am y tro cyntaf ers 2015-16. Erbyn hyn hefyd, mae ganddo gynllun tair blynedd cymeradwy hyd at 2021-22. Er hynny roedd y ffaith nad oedd ei gyllidebau’n gytbwys, fel a oedd yn ofynnol, dros gyfnod o dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2020 yn golygu bod yr Archwilydd Cyffredinol wedi gorfod amodi ei farn archwilio am gyfrifon 2019-20.
Llwyddodd y tri bwrdd iechyd arall, tair ymddiriedolaeth GIG ac un awdurdod iechyd arbennig i gyflawni eu dyletswydd i beidio â gorwario, ac roedd ganddynt gynlluniau cymeradwy.
Llwyddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal eu sefyllfa ariannol i raddau helaeth o gymharu â’r llynedd. Gwnaethant gofnodi diffygion tebyg o fewn y flwyddyn ond gwnaethant fethu â chyrraedd y ‘cyfansymiau rheoli’ ar gyfer lleihau diffyg, a bennwyd ar eu cyfer gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, gwaethygodd sefyllfa ariannol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ar ôl bwriadu peidio â gorwario, cofnododd y bwrdd iechyd ddiffyg o £16.3 miliwn o fewn y flwyddyn.
Rhaid croesawu unrhyw welliant i gyflwr ariannol cyffredinol GIG Cymru, ond rwy’n pryderu am y ffaith bod sawl bwrdd iechyd yn dal i gofnodi diffygion blynyddol er gwaethaf ambell gynnydd sylweddol yn y cyllid a gânt. Wrth edrych i’r dyfodol, mae’n amlwg bod GIG Cymru yn wynebu her enfawr wrth geisio gwella ei berfformiad ariannol a mynd i’r afael ar yr un pryd ag effeithiau eithriadol y pandemig COVID-19. Byddaf yn monitro ei gynnydd yn ofalus drwy gydol 2020-21 ac yn cyhoeddi diweddariadau fel y bo’n briodol.