Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

£53m o arian y cronfeydd amaethyddol wedi’i ddyfarnu heb sicrhau y byddai’n rhoi gwerth am arian

09 Tachwedd 2020
  • Dylai Llywodraeth Cymru wella’r rheolaethau o ran dyfarnu arian datblygu gwledig

    Yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, nid oedd agweddau pwysig ar y trefniadau i ddylunio, gweithredu a goruchwylio cronfa datblygu gwledig Llywodraeth Cymru yn ddigon effeithiol i sicrhau y byddai £53 miliwn o’r arian grant a ddyfarnwyd yn rhoi gwerth am arian.

    Bwriedir i’r Rhaglen Datblygu Gwledig hybu twf economaidd cryf a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru, ac mae’n cynnwys £522 miliwn o arian Ewropeaidd a £252 miliwn o arian domestig. Fel rheol, caiff grantiau eu dyfarnu i brosiectau ar ôl cystadleuaeth agored rhwng ymgeiswyr. Mae hyn yn helpu i sicrhau mai’r prosiectau gorau sy’n cael eu hariannu.

    Canfu’r adroddiad a gyhoeddir heddiw fod Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddyfarnu arian grant heb gystadleuaeth rhwng mis Ionawr 2016 a mis Ionawr 2019, a’i bod, mewn rhai achosion, wedi dyfarnu grantiau heb gymryd unrhyw gamau eraill i sicrhau y byddai’r prosiectau’n rhoi gwerth am arian.

    ,
    Dyfarnwyd £68 miliwn o arian grant drwy broses ‘ceisiadau uniongyrchol’ lle bu i swyddogion wahodd ceisiadau i gael arian heb gystadleuaeth. Bu’r archwilwyr yn archwilio £59 miliwn o’r arian grant hwn, a bu iddynt ganfod nad oedd modd i Lywodraeth Cymru ddarparu unrhyw dystiolaeth a oedd yn dangos iddi gymryd camau priodol i sicrhau gwerth am arian yn absenoldeb cystadleuaeth ar gyfer £28 miliwn o’r arian a ddyfarnwyd.
    ,

    O fewn y Rhaglen Datblygu Gwledig, dyfarnwyd £62 miliwn pellach o arian ychwanegol i brosiectau a oedd eisoes ar waith. Bu’r archwilwyr yn craffu ar ddyfarniadau gwerth cyfanswm o £30 miliwn, ac fe ganfuwyd yn achos £25 miliwn o’r arian hwn nad oedd unrhyw dystiolaeth yn dangos bod gwiriadau priodol wedi’u gwneud cyn dyfarnu’r arian ychwanegol.

    Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth cyfanswm o £53 miliwn o leiaf (£28 miliwn o geisiadau uniongyrchol a £25 miliwn o ddyfarniadau ychwanegol) heb gymryd camau i sicrhau y byddai’r arian hwnnw’n rhoi gwerth am arian.

    Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion gwella, gan gynnwys:

    • Cryfhau’r rheolaethau i sicrhau bod trefniadau goruchwylio, adolygu a herio priodol ar waith
    • Gwella’r modd y mae swyddogion yn cofnodi eu barn, eu gweithredoedd a’u penderfyniadau er mwyn iddynt allu dangos eu bod yn cydymffurfio â’r rheolaethau
    • Pan fydd yn dyfarnu arian ychwanegol i brosiectau sydd eisoes ar waith, mae angen i Lywodraeth Cymru werthuso’r hyn a gyflawnwyd gan y prosiectau hynny hyd yma
    ,
    Mae angen i drethdalwyr deimlo’n hyderus am y ffordd y mae eu llywodraeth yn defnyddio arian cyhoeddus. Mae’n hollbwysig dilyn egwyddorion llywodraethu da, gwerth am arian a chynaliadwyedd i ennyn ac i gynnal yr hyder hwn. Os caiff y prosesau a’r gwiriadau sydd ar waith i reoli’r drefn o ddyfarnu grantiau eu llacio neu’u hesgeuluso, oni bai fod y risgiau’n cael eu rheoli’n briodol, mae’n bosibl mai mater o lwc yn hytrach na chrebwyll fydd unrhyw ganlyniad llwyddiannus yn y pen draw, ac mae’n fwy tebygol y bydd arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu. Mae fy adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £53 miliwn o arian grant heb roi sylw digonol i’r angen i sicrhau gwerth am arian. Bwriedir i’m hargymhellion gryfhau’r rheolaethau i sicrhau bod pob grant datblygu gwledig yn cael ei lywodraethu’n dda a bod pob grant yn debygol o roi gwerth am arian, yn enwedig pan gaiff arian grant ei ddyfarnu heb gystadleuaeth. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i olygyddion:

    • Hyd at 31 Awst 2019, mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau gwerth cyfanswm o £598 miliwn o’r Rhaglen Datblygu Gwledig.
    • Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y prosesau a’r rheolaethau a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru i ddyfarnu grantiau rhwng mis Ionawr 2016 a mis Ionawr 2019. Ni wnaethom werthuso perfformiad y prosiectau unigol a gafodd arian grant.
    • Archwilydd allanol statudol annibynnol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus datganoledig Cymru yw’r Archwilydd Cyffredinol. Mae’n gyfrifol am gynnal archwiliad blynyddol o’r rhan fwyaf o’r arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru, gan gynnwys y £15 biliwn o arian y mae Senedd Cymru’n pleidleisio arno bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru’n trosglwyddo rhannau o’r arian hwn i Wasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru (dros £7 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol yn hollbwysig. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw Senedd Cymru na’r llywodraeth yn cyfarwyddo nac yn rheoli ei waith.
    • Corff corfforaethol a chanddo Fwrdd statudol â naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru. Mae’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau i’r Archwilydd Cyffredinol sydd hefyd yn Brif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol o ran y modd y mae’n arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw’n endid cyfreithiol ynddo’i hun.
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Sicrhau Gwerth am Arian Grantiau Datblygu Gwledig

    Gweld mwy