Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol sy'n edrych ar a yw grantiau a ddyfarnwyd gan raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru heb gystadleuaeth wedi darparu gwerth am arian.
Mae Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru Mae’r rhaglen yn ceisio hybu datblygu cymunedol a thwf economaidd cryf a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru. Mae’n cynorthwyo prosiectau yn y diwydiannau bwyd, ffermio a choedwigaeth i wella cynhyrchiant, amrywiaeth ac effeithlonrwydd.
Hyd at 31 Awst 2019, dyfarnodd Llywodraeth Cymru grantiau gwerth cyfanswm o £598 miliwn o dan y rhaglen. Yn gyffredinol, mae Llywodraeth Cymru’n dyfarnu arian grant y Rhaglen Datblygu Gwledig i brosiectau newydd ar ôl cynnal prosesau lle ceir cystadleuaeth agored rhwng yr ymgeiswyr; mae hyn yn helpu i sicrhau mai’r prosiectau gorau sy’n cael yr arian. Fodd bynnag, dyfarnodd Llywodraeth Cymru £68 miliwn drwy ‘geisiadau uniongyrchol’. Drwy’r broses hon, estynnodd swyddogion wahoddiad i unigolion neu sefydliadau yr oeddent yn gyfarwydd â nhw wneud cais heb unrhyw gystadleuaeth.
Bu inni adolygu sampl o £59 miliwn a oedd yn cynnwys y mwyaf o’r ceisiadau uniongyrchol hyn i weld a fu i Lywodraeth Cymru, yn absenoldeb cystadleuaeth, roi mesurau amgen priodol ar waith i sicrhau gwerth am arian.
Bu inni hefyd adolygu sampl o £30 miliwn a ddyfarnwyd gan Lywodraeth Cymru i brosiectau sydd eisoes ar waith i weld a oedd y penderfyniadau i ddyfarnu’r cyllid yn seiliedig ar werthusiad o’i lwyddiant, p’run a wnaed y dyfarniad gwreiddiol ar sail cystadleuaeth ai peidio. Hyd yma, drwy raglen 2014- 2020, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £62 miliwn o arian ychwanegol i brosiectau a oedd eisoes ar waith.
Bu inni ganolbwyntio ar brosesau a rheolaethau Llywodraeth Cymru o ran y grantiau a ddyfarnwyd rhwng mis Ionawr 2016 a mis Ionawr 2019. Ni wnaethom adolygu’r prosiectau a gafodd yr arian.