Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu’n gwneud cyfraniad pwysig at reoli COVID-19 yng Nghymru

18 Mawrth 2021
  • Er bod y rhaglen wedi ei chael yn anodd ymdopi â brigau cynharach yng nghyfraddau trosglwyddo’r feirws, mae wedi dangos gallu i ddysgu ac esblygu’n gyflym mewn ymateb i’r heriau y mae wedi’u hwynebu. 

    Mae’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (POD) wedi bod yn llwyddiannus o ran dod â gwahanol rannau o sector cyhoeddus Cymru, ac asiantaethau eraill, ynghyd i fynd ati’n gyflym i ddatblygu system profi ac olrhain cysylltiadau a hynny gan ddechrau o’r dechrau gan mwyaf ac ar raddfa ddigynsail. 

    Mae’r rhaglen POD wedi bod yn rhan flaenllaw o ddull Llywodraeth Cymru o gyfyngu ar ymlediad COVID-19. Fel mewn rhannau eraill o’r DU, nid yw’r rhaglen POD ar ei phen ei hun wedi gallu atal ymlediad y feirws yn gyfan gwbl a bu angen iddi gael ei hategu gan gyfyngiadau symud lleol a chenedlaethol. Mae’r adroddiad hwn yn bwrw golwg ar y modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i heriau darparu gwasanaethau POD yng Nghymru mewn rhaglen sydd wedi bod, ac sy’n dal i fod, yn esblygu’n gyflym. 

    Yng nghamau cynnar y pandemig, roedd capasiti profi yng Nghymru’n annigonol i ymdopi â nifer cynyddol yr achosion o COVID-19. Roedd angen i Gymru ddefnyddio rhwydwaith Labordai Goleudy’r DU a chynyddu’r capasiti mewn labordai yng Nghymru i ymdopi â’r galw am brofion. Ar ôl rhai heriau logistaidd cychwynnol, mae’r system brofi hybrid hon wedi gallu prosesu canlyniadau profion yn gyflym gan mwyaf. Fodd bynnag, mae angen i’r system brofi yng Nghymru barhau i esblygu i sicrhau ei bod yn addas ar gyfer y diben, yn enwedig mewn perthynas â chleifion mewn ysbytai. 

    Cafodd timau olrhain cysylltiadau eu sefydlu’n llwyddiannus ledled Cymru, gan dynnu ar weithluoedd a oedd yn ehangu’n gyflym ac a oedd yn cael budd o gudd-wybodaeth a gwybodaeth leol. Mae olrhain cysylltiadau wedi perfformio’n dda ar y cyfan, gan gael ei helpu gan gytundeb cydgymorth rhwng rhanbarthau. Fodd bynnag, ar adegau pan oedd y galw’n uchel ledled Cymru gyfan, mae’r system wedi ei chael yn anodd tracio achosion positif a’u cysylltiadau’n gyflym. 

    Ceir gwybodaeth dda i ddangos yr ystod o wasanaethau a chymorth sydd ar gael i helpu’r cyhoedd i hunanynysu pan fo angen, ond mae ein gwaith wedi canfod ei bod yn anodd gwybod pa mor dda y mae’r elfen “ddiogelu” o’r rhaglen POD yn gweithio’n ymarferol.   

    Mae’r rhaglen wedi dangos ei bod yn gallu addasu ac esblygu’n gyflym, gan ddysgu gwersi o reoli achosion cynnar a cheisio cyfuno trefniadau sy’n benodol i Gymru â threfniadau ar gyfer y DU gyfan mewn modd effeithiol. Fodd bynnag, bu’n her, gyda swyddogion yn ei disgrifio fel ceisio “dylunio, adeiladu a hedfan awyren i gyd ar yr un pryd”. 

    Mae ein hadroddiad wedi amlygu nifer o heriau a chyfleoedd allweddol wrth i’r rhaglen POD barhau trwy gydol 2021:

    • Gwybodaeth well – mae angen i’r gwahanol rannau o’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru fod â gwybodaeth well i helpu i wella effeithlonrwydd a gwerthuso effaith y rhaglen POD ar y cyfan.
    • Gweithgareddau profi sy’n addas ar gyfer y diben – i barhau i ymateb i’r pandemig yn ystod 2021, bydd angen i brofion fod yn hygyrch, gyda hynny’n cael ei ategu gan gynllun cyflwyno eglur ar gyfer sut y bydd dyfeisiau profi cyflym yn cael eu cymhwyso. Mae angen cryfhau amlder profi ar gyfer cleifion a staff hefyd i atal unrhyw achosion yn y dyfodol mewn ysbytai.
    • Gweithlu medrus, cydnerth – mae staff sy’n rhan o’r rhaglen POD wedi bod yn gweithio dan bwysau sylweddol ac, i lawer, maent hefyd wedi cael eu hadleoli o rannau eraill o’r sector cyhoeddus. Mae angen gweithlu medrus a chydnerth i alluogi’r rhaglen POD i barhau trwy gydol 2021 wrth i’r gwasanaethau cyhoeddus ehangach ddechrau ailagor.
    • Dylanwadu ar y cyhoedd – dim ond rhan o’r ymateb i gyfyngu ar ymlediad COVID-19 yw’r rhaglen POD gyda dibyniaeth wirioneddol ar y cyhoedd i ddilyn y rheolau a hunanynysu. Wrth i’r cyhoedd syrffedu ar y pandemig a chyfyngiadau ar fywydau pob dydd, mae dylanwadu ar ymddygiad y cyhoedd yn dal i fod yn her enfawr.
    • Cymhwyso’r gwersi – mae’r rhaglen POD wedi dangos y gallu i wasanaethau cyhoeddus gydweithio a hynny’n gyflym i gyflawni pethau. Wrth i’r sylw droi tuag at ymatebion gwahanol i’r pandemig, mae’n bwysig bod y gwersi cadarnhaol o’r rhaglen yn cael eu dysgu a’u cymhwyso i’r modd y bydd partneriaid yn cydweithio yn y dyfodol.
    ,
    Mae Cymru wedi datblygu gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu gan ddechrau o’r dechrau i raddau helaeth a hynny ar raddfa a chyflymder na welwyd mo’u bath o’r blaen.  Mae wedi bod yn arbennig o galonogol gweld pa mor dda y mae partneriaid yn y sector cyhoeddus wedi bod yn cydweithio ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol i gyfuno arbenigedd arbenigol â gwybodaeth leol a gallu i ddysgu’n gyflym ac addasu’r rhaglen wrth i ni fynd drwy’r pandemig. Mae’n bwysig bod y gwersi cadarnhaol yn cael eu dysgu a’u rhoi ar waith yn fwy eang. Bu adegau pan fo’r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu wedi cael ei ymestyn i’r eithaf, ond mae wedi ymateb yn dda i’r heriau hyn. Mae angen i’r rhaglen barhau i esblygu, ochr yn ochr â chyflwyno brechlynnau, i sicrhau ei bod yn dal i ganolbwyntio ar gyrraedd achosion positif, a’u cysylltiadau, ac yn cynorthwyo pobl i hunanynysu i gadw’r feirws dan reolaeth. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Nodiadau i Olygyddion:

    • Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r prif ganfyddiadau o adolygiad yr Archwilydd Cyffredinol o’r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i heriau darparu gwasanaethau POD yng Nghymru.
    • Daw’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer ein sylwebaeth o adolygiadau o ddogfennau, cyfweliadau gyda staff mewn byrddau iechyd, awdurdodau lleol, yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2020, a dadansoddiad o fetrigau allweddol sy’n dangos pa mor dda y mae’r rhaglen POD wedi bod yn perfformio. 
    • Yn ogystal â gwneud sylwadau am gyflawni’r rhaglen POD hyd at a chan gynnwys ym mis Rhagfyr 2020, mae’r adroddiad yn nodi rhai heriau a chyfleoedd a fydd yn dod i’r amlwg fel rhan o’r frwydr barhaus i reoli COVID-19.
    • Caiff y Labordai Goleudy eu rheoli gan bartneriaeth a arweinir gan Lywodraeth y DU. Mae’r bartneriaeth yn cynnwys y Catapwlt Darganfod Meddyginiaethau (sefydliad a ariennir gan Lywodraeth y DU), Bywydfan y DU, Prifysgol Glasgow, Prifysgol Caergrawnt, a chwmnïau preifat: AstraZeneca, GSK, a PerkinElmer.
    • Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol annibynnol y sector cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae’n gyfrifol am fynd ati’n flynyddol i archwilio’r mwyafrif o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario yng Nghymru, gan gynnwys yr £20 biliwn o arian y pleidleisir arno’n flynyddol gan Senedd Cymru. Caiff elfennau o’r cyllid hwn eu trosglwyddo gan Lywodraeth Cymru i’r GIG yng Nghymru (dros £8 biliwn) ac i lywodraeth leol (dros £4 biliwn).
    • Mae annibyniaeth archwilio’r Archwilydd Cyffredinol o’r pwys mwyaf. Fe’i penodir gan y Frenhines, ac nid yw ei waith archwilio’n cael ei gyfarwyddo na’i reoli gan Senedd Cymru na’r Llywodraeth. 
    • Corff corfforaethol sy’n cynnwys Bwrdd statudol ac iddo naw aelod yw Swyddfa Archwilio Cymru sy’n cyflogi staff ac yn darparu adnoddau eraill ar gyfer yr Archwilydd Cyffredinol, sydd hefyd yn gweithredu fel Prif Weithredwr a Swyddog Cyfrifyddu’r Bwrdd. Mae’r Bwrdd yn monitro ac yn cynghori’r Archwilydd Cyffredinol, o ran arfer ei swyddogaethau.
    • Archwilio Cymru yw’r enw ymbarél ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru. Mae Archwilio Cymru yn nod masnach cofrestredig, ond nid yw’n endid cyfreithiol ynddo’i hun. 
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Profi, Olrhain, Diogelu yng Nghymru: Trosolwg o'r Cynnydd Hyd Yma

    View more