Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae pwyslais ein gwaith archwilio yn parhau i esblygu i adlewyrchu'r modd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn ymateb i'r heriau a wynebwn

01 Ebrill 2022
  • Yr Archwilydd Cyffredinol a Chadeirydd y Bwrdd yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf yn Archwilio Cymru

    Heddiw, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2022-23. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf wrth i’r sector cyhoeddus yng Nghymru barhau i ymdopi â byd sy'n newid.

    Mae gan archwilio ran hanfodol o ran rhoi'r wybodaeth a'r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, gwleidyddion, penderfynwyr a dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

    Yn y Cynllun hwn, gan gyfeirio at ein Ymgynghoriad sy'n gwahodd sylwadau i lywio ein rhaglen waith archwilio yn y dyfodol, a gynhaliwyd yn ddiweddar, rydym yn crynhoi’r prif ffactorau a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y byddwn yn cyflawni ein rhaglen o waith archwilio dros y blynyddoedd nesaf.

    Yn ogystal â nodi ein rhaglenni arfaethedig ar gyfer y 12 mis nesaf, rydym yn nodi nifer o gamau blaenoriaeth a fydd yn cynorthwyo ein gwaith archwilio a’n gwaith o weithredu’r busnes yn 2022-23. Rydym hefyd yn disgrifio'r dulliau y byddwn yn eu defnyddio i fesur, adrodd a myfyrio ar ein perfformiad ac effaith ein gwaith.

    ,
    'Wrth i ni ddechrau dod allan o'r pandemig, mae'n anochel y bydd ei effaith yn parhau i gael dylanwad sylweddol ar ein gwaith yn 2022-23. Byddwn yn blaenoriaethu gwaith sy'n archwilio'r arian ychwanegol sydd wedi'i wario yng Nghymru a'r gwerth am arian a gyflawnwyd. Mae'n hanfodol bod pwyslais ein gwaith archwilio yn parhau i esblygu i adlewyrchu sut mae gwasanaethau cyhoeddus yn trefnu eu hunain i ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu. Yn ystod y 12 mis nesaf, byddwn yn dod â’r amserlen adrodd i batrymau cyn y pandemig heb beryglu ein hymrwymiad llwyr i ansawdd archwilio. Er mwyn gwella effaith ein cynnyrch archwilio, byddwn hefyd yn rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau bod eu ffurf a'u cyflwyniad yn fwy deniadol ac ysbrydoledig gydag iaith gliriach a beiddgar. Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton
    ,
    Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn gweithredu newidiadau i'n model gweithredu i gefnogi ein hamcanion archwilio a chynnal ansawdd archwilio. Gan ddysgu o'n profiad drwy'r pandemig, byddwn yn dychwelyd i rywfaint o weithredu yn y swyddfa gan hefyd gynnal hyblygrwydd gweithio o bell. Yn 2022, byddwn hefyd yn gwneud penderfyniadau ar ein hystâd swyddfeydd yn y dyfodol. Ein nod yw dod o hyd i ateb sy'n darparu gwaith effeithlon o ansawdd uchel, gan roi gwerth uchel ar iechyd a lles staff Archwilio Cymru a'n heffaith amgylcheddol. Gan fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldeb i rannau eraill o'r sector cyhoeddus i gyfyngu ar ein costau gweithredu ein hunain, rydym wedi gosod targedau arbedion heriol drwy reoli swyddi gwag a meysydd gwariant eraill. Cadeirydd Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, Lindsay Foyster
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cynllun Blynyddol 2022-23

    View more