Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cynyddodd cyrff y GIG eu cynnig lles i staff yn ystod y pandemig ond bellach mae angen iddynt sicrhau bod cymorth parhaus yn cael ei ddarparu a'i wneud yn hawdd i bawb ei gyrraedd.
Mae staff y GIG wedi dangos gwydnwch ac ymroddiad aruthrol drwy gydol y pandemig, er eu bod yn wynebu straen enfawr i'w hiechyd meddwl a chorfforol. Ar ddechrau pandemig COVID-19, symudodd cyrff y GIG yn gyflym i wella eu mentrau lles i gefnogi staff drwy'r cyfnod digynsail hwn. Fodd bynnag, ni ellir anwybyddu effeithiau tymor hwy y pandemig ar les staff.
Cyn y pandemig, roedd lles staff eisoes yn her fawr i'r GIG ac nid yw'r argyfwng ond wedi tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogi iechyd meddwl a chorfforol staff. Wrth i'r pandemig ddatblygu, gweithredodd cyrff y GIG yng Nghymru fesurau i wella lles staff, megis creu mannau gorffwys pwrpasol, cynyddu iechyd meddwl a darpariaeth seicolegol, a gwella mesurau rheoli heintiau ac atal. Fodd bynnag, mae angen i gyrff y GIG wneud mwy yn awr i sicrhau bod staff y GIG yn gwybod sut i gael gafael ar gymorth sy'n gweddu i'w hanghenion penodol.
Edrychodd ein hadroddiad hefyd ar sut yr oedd cyrff y GIG yng Nghymru yn diogelu staff sydd mewn mwy o berygl o COVID-19. Ymhlith mentrau diogelu eraill, cyflwynodd pob corff Offeryn Asesu Risg y Gweithlu COVID-19 Cymru Gyfan. Mae'r offeryn asesu risg yn nodi'r rhai sydd mewn mwy o berygl ac yn caniatáu rhoi mesurau ychwanegol ar waith i sicrhau bod staff yn cael eu diogelu'n ddigonol. Er bod cyrff y GIG yn hyrwyddo ac yn annog staff i gwblhau'r offeryn asesu, roedd cyfraddau cwblhau yn amrywio ymhlith y gwahanol gyrff.
Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar les staff yn bendant. Mae arolygon ac ymchwil a wnaed gan gyrff proffesiynol yn tynnu sylw at y straen cynyddol a'r gorweithio a brofir gan staff. Gyda gweithlu GIG sydd wedi'i ddihysbyddu'n fwy emosiynol a chorfforol nag erioed, rhaid i gyrff y GIG yng Nghymru barhau i ganolbwyntio ar les staff i lywio drwy effeithiau tymor hwy yr argyfwng.
Mae cyfle hefyd i gyrff ailgynllunio eu hymagwedd at les staff er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, effeithiol ac effeithlon. Mae rhestr wirio yn cyd-fynd â'n hadroddiad sy'n nodi rhai o'r cwestiynau y dylai aelodau Bwrdd y GIG fod yn gofyn iddynt sicrhau bod gan eu cyrff iechyd drefniadau da ar waith i gefnogi lles staff.
Mae rhai o'r argymhellion a wnaed yn ein hadroddiad yn canolbwyntio ar:
Mae'r cydnerthedd a'r ymroddiad a ddangoswyd gan staff y GIG ar bob lefel yn wyneb yr heriau a'r pwysau digynsail a gyflwynwyd gan y pandemig wedi bod yn wirioneddol ryfeddol. Fodd bynnag, mae'n anochel y bydd hyn wedi cael effaith sylweddol ar les staff y GIG, sydd bellach hefyd yn wynebu'r heriau o ddelio â'r galw cynyddol yn y system a achosir gan COVID-19. Mae'n galonogol gweld bod cyrff y GIG wedi parhau i ganolbwyntio'n glir ar les staff drwy gydol y pandemig ac wedi gweithredu ystod eang o fesurau i gefnogi iechyd corfforol a lles meddyliol eu staff yn ystod yr argyfwng. Mae'n hanfodol bod y gweithgareddau hyn yn cael eu hadeiladu a bod lles staff yn parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog i gyrff y GIG wrth iddynt ddelio â heriau cyfunol adennill gwasanaethau, parhau i ymateb i bandemig COVID-19, a hefyd rheoli pwysau tymhorol y disgwylir iddynt fod yn fwy y gaeaf hwn nag yr oeddent y llynedd. Mae'n debyg bod gofalu am y rhai sy'n gofalu am eraill yn bwysicach nawr nag y bu erioed o'r blaen.
Nodyn
Yr adroddiad hwn yw'r ail o ddau gyhoeddiad sy'n tynnu sylw at themâu sy'n gysylltiedig â COVID-19 o'n gwaith Asesu Strwythuredig yng nghyffau'r GIG, gan nodi cyfleoedd yn y dyfodol a rhannu dysgu. Darllenwch ein hadroddiad cyntaf – Gwneud pethau'n wahanol, gwneud pethau'n iawn?