Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y rhwystrau niferus sy’n wynebu cynghorau a’u partneriaid, ond mae hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu o fannau eraill i helpu i oresgyn yr argyfwng tai trwy ddatblygu safleoedd nas defnyddir mewn modd cynaliadwy.
Fe wnaethom archwilio sut y mae cynghorau Cymru’n rhoi cymorth ac anogaeth i ail-bwrpasu ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd yn gartrefi neu ar gyfer defnyddiau eraill.
Gyda lefelau uwch o alw’n cael eu gosod ar adnoddau naturiol, mae angen i’r Llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol daro cydbwysedd rhwng ymdrin â’r galw am dai ar y naill law a mesurau diogelu’r amgylchedd ar y llaw arall i helpu i leihau effaith yr argyfwng hinsawdd. Unwaith y caiff tir ei ddatblygu, mae'n annhebygol y bydd byth yn cael ei droi'n ôl yn ddefnydd maes glas, gan gael effeithiau amgylcheddol ac economaidd o ganlyniad. Mae Llywodraeth Cymru felly’n hybu'r arfer o ddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen ac ail-bwrpasu adeiladau gwag, lle bynnag y bo'n bosibl.
Fodd bynnag, mae datblygu safleoedd tir llwyd yn dwyn ei set ei hun o rwystrau. Er enghraifft, lle mae safleoedd mewn hen ardaloedd diwydiannol gall halogi a chostau adfer posibl wneud cost yn rhwystr, hyd yn oed os gwasanaethir y safle gan seilwaith, megis ffyrdd neu gyfleustodau. Mae hyn yn golygu bod datblygu’n aml yn dilyn cwys haws, gan fynd yn groes i bolisi cenedlaethol a chan gynyddu dibyniaeth ar safleoedd maes glas.
Mae ein hadroddiad yn archwilio sut y mae cynghorau Cymru’n rhoi cymorth ac anogaeth i ail-bwrpasu ac adfywio eiddo gwag a safleoedd tir llwyd. Rydym yn canolbwyntio ar y rhwystrau sy’n wynebu cynghorau a’u partneriaid, ond rydym hefyd yn amlygu cyfleoedd i ddysgu o fannau eraill.
Mae adfywio tir llwyd ac eiddo nas defnyddir yn anodd ond yn angenrheidiol er mwyn i ni osgoi problemau mwy i genedlaethau’r dyfodol. Mae angen i gynghorau a’u partneriaid ddefnyddio dull gwahanol er mwyn goresgyn y rhwystrau sylweddol i ddatblygu tir llwyd a chyrraedd y nodau sy’n ganolog i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.