Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Dim ond 66% o gynghorau a gydymffurfiodd â’r terfyn amser statudol ar gyfer cyhoeddi eu cyfrifon archwiliedig
Mae’r graddfeydd amser i gynghorau gyhoeddi eu cyfrifon wedi’u nodi mewn cyfraith, ac eto dim ond 486 o gynghorau (66%) a gydymffurfiodd â’r terfyn amser hwn yn 2019. O ran y sefyllfa ar 30 Tachwedd 2019, er bod 51 o archwiliadau pellach wedi cael eu cwblhau, roedd 38 o gynghorau cymuned yn dal heb gyflwyno cyfrifon i gael eu harchwilio. Hefyd, mae nifer yr archwiliadau a gafodd farn amodol, sef 218 o gynghorau, yn dal i fod yn rhy uchel. Felly y mae hi yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae’r trefniadau archwilio ar gyfer cynghorau cymuned wedi’u bwriadu i roi lefel resymol o gysur i drigolion lleol bod arian cyhoeddus yn cael ei drin yn effeithiol. Gyda chynghorau’n trin mwy o arian cyhoeddus nag erioed, mae’n fwyfwy pwysig bod cynghorau’n dilyn y broses a nodir mewn cyfraith. Fodd bynnag, dengys adroddiad heddiw fod nifer y cynghorau sy’n methu â chyflwyno’u cyfrifon ar amser wedi codi o’i gymharu â’r llynedd.
Mae hyn wedi arwain at 218 barn archwilio amodol hyd yma, sy’n golygu bod 218 o gynghorau naill ai wedi methu â chydymffurfio â’u gofynion statudol, neu wedi camddatgan gwybodaeth yn eu ffurflen flynyddol. Er bod hyn yn llai na’r llynedd, gall y nifer hwn gynyddu unwaith y bydd gwaith ar y cynghorau sy’n weddill wedi cael ei gwblhau.
Yn ystod 2019, cyhoeddwyd deuddeg adroddiad o’r fath er budd y cyhoedd oherwydd methiannau arwyddocaol o ran rheoli arian cyhoeddus gan gynghorau lleol.
Ceir amgylchiadau lle mae materion mor arwyddocaol fel bod yr Archwilydd Cyffredinol yn dwyn y rhain i sylw’r cyhoedd. Yn ystod 2019, cyhoeddwyd deuddeg adroddiad o’r fath er budd y cyhoedd oherwydd methiannau arwyddocaol o ran rheoli arian cyhoeddus gan gynghorau lleol.
Mae adroddiad heddiw’n nodi pum pwynt allweddol:
Mae disgwyl i gynghorau lleol fod â rôl fwyfwy pwysig o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus ac mewn cymunedau lleol. Er fy mod wrth fy modd i weld yr ymateb cadarnhaol gan rai cynghorau i’r argymhellion a wnaethom y llynedd, rwy’n siomedig bod rhai cynghorau’n dal i gael barnau amodol am resymau lluosog. Rwy’n argymell bod yr holl gynghorau’n ystyried y materion a godir yn yr adroddiad hwn ac yn ystyried a all unrhyw faterion o’u plith fod yn berthnasol iddynt hwy.