Cyfleoedd ar gael ar Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru

15 Awst 2022
  • Mae'r Senedd yn chwilio ar hyn o bryd am ddau Aelod Anweithredol a Chadeirydd i ymuno â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru. Os byddant yn llwyddiannus, bydd ymgeiswyr yn rhan o'r Bwrdd a fydd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol Swyddfa Archwilio Cymru ac am sicrhau bod y sefydliad yn cael ei reoli’n effeithlon ac yn gost-effeithiol. Caiff y Cadeirydd ei benodi gan Aelodau Anweithredol Swyddfa Archwilio Cymru, felly fe gaiff ei benodi'n Aelod Anweithredol o'r Bwrdd i ddechrau. Mae'r Bwrdd yn cynnwys: Pum aelod anweithredol (gan gynnwys y Cadeirydd) Archwilydd Cyffredinol Cymru Tri chyflogydd Swyddfa Archwilio Cymru Canfuwch fwy Swnio fel rhywbeth y byddai gennych ddiddordeb ynddo? Edrychwch ar wefan y Senedd [yn agor mewn ffenest newydd] i ganfod mwy. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 16 Medi 2022.