Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gyda chyllid cyhoeddus dan straen sylweddol, mae gwerth ein gwaith yn bwysicach nag erioed
Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2023-24 sy'n amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf.
Mae gwerth archwiliad cyhoeddus mewn amgylchedd sy'n newid yn gyflym, yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd i'r cyhoedd, gwleidyddion, y rhai sy'n, gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr ynghylch a yw arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach mewn cyfnodau pan mae'r pŵer gwariant cyhoeddus wedi'i erydu ac mae cyllid o dan y fath straen. Bydd ein rhaglen archwilio yn canolbwyntio ar rai o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Cymru.
Y llynedd, fe wnaethom gyhoeddi ein strategaeth pum mlynedd, sy'n darparu'r cyd-destun ar gyfer y Cynllun Blynyddol hwn ac yn nodi ein rhaglen waith yn ystod yr ail flwyddyn o gyflwyno ein strategaeth, gan ganolbwyntio ar dri maes allweddol:
Mae ein Cynllun Blynyddol, yn ogystal â gosod ein rhaglen waith ar gyfer 2023-24, hefyd yn tynnu sylw at sawl maes blaenoriaeth a fydd yn cefnogi ein gwaith archwilio a rhedeg y busnes, sut rydym yn bwriadu eu cyflawni a'r hyn y byddwn yn ei wneud i wella ein dull o fonitro perfformiad.
Gyda chyllid cyhoeddus dan straen o'r fath, mae ein gwaith craidd yn archwilio datganiadau ariannol cyrff cyhoeddus, gan ddarparu sicrwydd, tryloywder ac atebolrwydd i drethdalwyr, y Senedd a chynrychiolwyr etholedig eraill yn bwysicach nag erioed. Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd ein hymgyrch i wella ansawdd ein gwaith yn ein gweld yn gwreiddio safonau rhyngwladol newydd ar gyfer archwilio ariannol a pherfformiad..." Byddwn hefyd yn gobeithio cynyddu effaith ein harchwiliadau gyda rhaglen waith yn canolbwyntio ar bedair thema - mynd i'r afael ag anghydraddoldeb; ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur; gwytnwch gwasanaeth a mynediad; a gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu rheoli'n dda.
Yn fy mlwyddyn gyntaf fel Cadeirydd y bwrdd, rwy'n ymwybodol nad yw Archwilio Cymru'n imiwn i'r pwysau ariannol sy'n wynebu gweddill y sector cyhoeddus. Rydym yn cynnal adolygiad cynaliadwyedd ariannol i sicrhau bod y busnes yn gweithredu yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol bosibl. Bydd ein prosiect Ffyrdd o Weithio yn y Dyfodol yn ein gweld yn dechrau'r flwyddyn mewn mangre lai, fwy ynni-effeithlon, a hygyrch yng Nghaerdydd Byddwn yn parhau i asesu sut mae ein hasedau ledled Cymru yn ein galluogi i gyflawni ein gwaith archwilio gorau gan hefyd wneud cyfraniad sylweddol at ein huchelgeisiau sero net. Ni fydd yr un o'r hyn yr ydym yn anelu at ei gyflawni dros y flwyddyn i ddod yn bosibl heb ein timau medrus a brwdfrydig iawn a bydd cefnogi eu lles yn parhau, felly, ein blaenoriaeth uchaf gan ei fod yn sail i'r cyfan a wnawn.