Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Dengys ein hymchwil fod y sector cyhoeddus wedi bod yn gwario hyd at £210 miliwn yn adweithio i gysgu allan, yn hytrach na’i hatal – mae hyn yn wastraff arian
Mae pandemig COVID-19 yn gyfle i gyrff cyhoeddus ddechrau mynd i’r afael â gwendidau o ran gweithio mewn partneriaeth i helpu i fynd i’r afael â chysgu allan.
Yn ôl canfyddiadau ein hadroddiad, er bod llawer o gyff cyhoeddus wedi bod yn gweithio gyda phobl a oedd yn cysgu allan dros y blynyddoedd diwethaf, nid oedd gwasanaethau wastad wedi’u cydgysylltu ac yn helpu pobl pan oedd angen hynny arnynt. Canfuom nifer o enghreifftiau o bobl yn cael eu cynorthwyo i symud oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety dros dro, ond nid oeddent yn cael y cymorth yr oedd ei angen arnynt i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol eu digartrefedd ac roeddent yn aml yn diweddu’n ôl lle dechreuon nhw.
Mae gwir nifer y pobl yn cysgu allan yng Nghymru bob blwyddyn yn anhysbys. Yn seiliedig ar wybodaeth gan elusennau arbenigol sy’n gweithio gyda phobl sy’n cysgu allan, mae tua 3,000 o achosion o gysgu allan bob blwyddyn. Mae’r data diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod nifer y bobl a oedd yn cysgu allan yn dal i gynyddu cyn y pandemig, gan gynyddu 17% rhwng mis Tachwedd 2018 a mis Tachwedd 2019.
Dengys ein hymchwil fod pobl sy’n cysgu allan yn ddiweddarach yn eu hoes yn aml wedi profi cam-drin domestig neu rywiol, problem camddefnyddio sylweddau, wedi cael eu cam-drin gartref, wedi profi anawsterau yn yr ysgol, neu wedi byw mewn tlodi o oedran ifanc.
I roi diwedd ar gysgu allan, mae angen i ddatrysiadau fynd i’r afael ag anghenion llety a chymorth ac mae angen i lawer o gyrff cyhoeddus – gan gynnwys cynghorau, yr Heddlu, cyrff iechyd, cymdeithasau tai ac eraill – newid y ffordd y maent yn gweithio a’r hyn y maent yn ei wneud i drechu problem cysgu allan.
Rydym ni’n credu mai’r allwedd i drechu’r broblem hon yw bod cyrff cyhoeddus yn darparu un ymateb gan wasanaethau cyhoeddus sydd wedi’i dargedu at bobl sy’n cysgu allan. I ategu hyn, rydym wedi cynnwys offeryn hunanfyfyrio yn ein hadroddiad i gyrff cyhoeddus ei ddefnyddio i wella sut y gallant fynd i’r afael ag anghenion cymhleth ar y cyd yn y dyfodol.
Bu newid gwirioneddol a phwyslais go iawn ar gysgu allan ers i’r pandemig daro, gyda gwasanaethau cyhoeddus yn camu i fyny i helpu pobl i symud oddi ar y strydoedd ac i mewn i lety. Yn awr mae angen i wasanaethau cyhoeddus fanteisio ar y gwaith hwn a darparu datrysiadau tymor hwy i roi diwedd ar pobl yn cysgu ar ein strydoedd.Rwy’n credu, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, bod dileu cysgu allan yng Nghymru’n bosibilrwydd. Mae ein hadroddiad yn nodi sut y gallwn ni i gyd weithio tuag at y nod hwn. Rhaid i gyrff cyhoeddus beidio â chanolbwyntio dim ond ar sicrhau bod gan bobl do uwch eu pennau; mae angen i’r holl bartneriaid gydweithio i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol digartrefedd.