Iechyd meddwl a lles yn ystod COVID-19

02 Tachwedd 2020
  • Mae bywyd wedi newid, mae gwaith wedi newid, rydyn ni wedi newid. Ond beth allwn ei ddysgu o'n profiadau?

    Mae'n anochel bod y pandemig Coronafeirws wedi cael effaith ar les meddyliol llawer o bobl i raddau amrywiol.

    O weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol allweddol ar y rheng flaen yn trin COVID, i'r rhai sy'n gwarchodi, yn byw ar eu pen eu hunain, neu'n gwirfoddoli yn y gymuned - mae'r feirws wedi effeithio ar bawb.

    Yn ystod y gweminar hwn byddwn yn clywed sut mae gwasanaethau cyhoeddus wedi addasu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu yn ystod y pandemig yn ogystal â'u llwyddiannau a'u heriau. Yn benodol, byddwn yn canolbwyntio ar:

    • Gwasanaethau yn y gymuned yn cydweithio i ddarparu cymorth iechyd meddwl
    • Cefnogi iechyd a lles staff
    • Sut y gellir cymryd mantais o dechnoleg i oresgyn unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol
    • Sut beth yw arwain sefydliadau drwy bandemig
    • Dulliau gwahanol o ddarparu cymorth iechyd meddwl

    Yn ogystal â hyn byddwn hefyd yn clywed gan We are Platfform, a fydd yn rhannu negeseuon allweddol o'u 'Gwersi o’r Cyfnod Cloi' ac yn rhoi darlun o iechyd meddwl a lles yng Nghymru.

    Cysylltwch â'r Gyfnewidfa Arfer Da

    I gofrestru ar gyfer y seminar, llenwch ein ffurflen cadw lle ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd [agorir mewn ffenest newydd] i gynrychiolwyr, sy’n dweud wrthych chi sut rydym yn delio gyda’ch data personol fel rhan o’r broses gofrestru.  

    I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiad, anfonwch e-bost i Arfer.Da@archwilio.cymru

    Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno 1-2 wythnos cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle er mwyn sicrhau ein bod yn gallu anfon gwybodaeth atoch.

     

cofrestrwch am ddigwyddiad hon
Amdanach chi
Enw
Manylion ddigwyddiad mewn berson

Please tick the box below to complete verification

CAPTCHA
a