Ydych chi eisiau clywed sut y gallem oresgyn yr heriau hyn? Ydych chi eisiau rhwydweithio a dysgu gan eich cyfoedion?
Ymunwch â'n cynhadledd Cyllid ar gyfer y Dyfodol 2023!
Byddwch yn mynychu prif areithiau a sesiynau llawn ar ystod eang o bynciau sy'n berthnasol i chi - arweinwyr cyllid yfory. Dysgwch am rai o'r materion allweddol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu, a pha mor hanfodol yw gweithwyr cyllid proffesiynol o ran ategu atebion arloesol ar gyfer darparu gwasanaethau. Byddwch hefyd yn ymuno â sesiynau sydd â'r nod o'ch arfogi â'r adnoddau sydd eu hangen arnoch i lywio gyrfa lwyddiannus.
Yn dilyn adborth o'r llynedd, eleni bydd amser penodol ar gyfer rhwydweithio.
Daw'r gynhadledd i chi gan y Grŵp Datblygu Sgiliau Cyllid; partneriaeth sydd â'r nod o ddatblygu sgiliau arwain cyllid ledled Cymru.
Sut wyf i'n mynegi fy niddordeb?
Fydd angen creu cyfrif gan ddefnyddio'r ddolen uchod i archebu lle ar y gynhadledd hon. Unwaith y byddwch wedi creu cyfrif – cliciwch ar y digwyddiad i gofrestru ar gyfer y gynhadledd. Os na welwch y botwm mynychu'r digwyddiad , ewch yn ôl i'ch gwahoddiad a chliciwch ar y ddolen eto. Byddwch yn derbyn cadarnhad e-bost unwaith y byddwch wedi archebu lle ar y digwyddiad. Pan fyddwch yn ymrestru ar gyfer digwyddiad yr ydym wedi'i drefnu, rydym yn casglu gwybodaeth benodol amdanoch fel cynrychiolydd, hwylusydd neu gyfrannwr. Gall digwyddiadau gynnwys cynadleddau, ymgysylltu, neu gyfarfodydd a digwyddiadau eraill. I gael gwybod mwy, darllenwch ein Hysbysiad Prosesu Teg Digwyddiadau [agorir mewn ffenest newydd].
Caiff cyfarwyddiadau ymuno eu dosbarthu un i ddau ddiwrnod cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost gwaith wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.
Dalier sylw, bydd y gweminar yn cael ei recordio a'i storio ar YouTube i’w gwylio yn y dyfodol.