Clawr adrodd yn dangos dyn yn gwenu gyda mwg o de
Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion

Mae ein hadroddiad yn edrych ar sut mae Taliadau Uniongyrchol yn helpu pobl i fyw'n annibynnol.

Mae Taliadau Uniongyrchol yn ddewis amgen i ofal neu gymorth a drefnir gan awdurdod lleol a gallant helpu i ddiwallu anghenion unigolyn neu ofalwr. Eu nod yw rhoi mwy o ddewis i bobl, mwy o hyblygrwydd a mwy o reolaeth dros y cymorth a gânt.

Edrychodd ein hadroddiad ar sut mae Taliadau Uniongyrchol yn helpu i gynnal lles pobl ac a ydynt yn gwella ansawdd bywyd. Edrychwyd hefyd ar sut y mae awdurdodau lleol yn rheoli ac yn annog pobl i fanteisio ar Daliadau Uniongyrchol ac a yw'r gwasanaethau hyn yn rhoi gwerth am arian.

Beth wnaethom ni ganfod?

Gwelsom fod Taliadau Uniongyrchol yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr, ac roedd y bobl a arolygwyd gennym yn cydnabod eu bod yn eu helpu i aros yn annibynnol.

"Mae Taliadau Uniongyrchol yn caniatáu i mi gael rheolaeth ac, yn bwysicach, i gael y gofal sydd ei angen arnaf i allu manteisio i'r eithaf ar fywyd."

Edrychwch ar ein crynodeb o farn derbynwyr Taliadau Uniongyrchol a gofalwyr [yn agor mewn ffenest newydd].

Ond gwelsom hefyd fod rheoli a chynorthwyo pobl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol yn amrywio'n fawr gan arwain at ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn derbyn safonau gwasanaeth gwahanol.

Er gwaethaf rhai heriau sylweddol, sicrhaodd awdurdodau lleol fod defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr yn cael eu cefnogi ar y cyfan yn ystod y pandemig, ond roedd nifer sylweddol o ddefnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr a arolygwyd gennym wedi profi anawsterau.

Mae ein hadroddiad yn gwneud 10 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i fynd i'r afael â rheoli Taliadau Uniongyrchol a'u gwerth am arian.

Related News

Mae Taliadau Uniongyrchol yn cefnogi annibyniaeth pobl ac yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr ond mae cyfleoedd i wella

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA