Mae pob £ a gollir i dwyll yn y sector cyhoeddus yn £ a wastraffir ac a gollir i wasanaethau cyhoeddus hanfodol

05 Tachwedd 2020
  • Y broblem yw bod pobl sy’n twyllo yn y sector cyhoeddus yn ei ystyried yn ddwyn oddi wrth bobl eraill nid dwyn oddi wrthyn nhw eu hunain. Mae’n anodd crynhoi’r ateb mewn un frawddeg, ond mae’n cynnwys ymwybyddiaeth o dwyll, atal twyll, datgelu twyll, mynd ar drywydd achosion o dwyll yn ddyfal a rhoi cyhoeddusrwydd i’r achosion hynny a dysgu ganddynt.

    Steve ydw i, Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol Swyddfa Archwilio Cymru a Chymrawd y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA).  Rwyf hefyd yn Arweinydd Gweithredol ar gyfer ein Cyfnewidfa Arfer Da, ac am y flwyddyn diwethaf, ein gwaith ar y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru.

    Mae ein Cyfnewidfa Arfer Da yn ymchwilio i’r pethau gwych sy’n digwydd ledled y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ac mae’n rhannu'r ymarfer da hwnnw mewn seminarau, gweminarau ac adnoddau eraill yn agored i bawb. Ymwna’r cysyniad â dysgu ar y cyd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n digwydd o ran gwelliannau yn y sector cyhoeddus , addasu’r arfer da ar gyfer amgylchiadau lleol yn hytrach na dim ond ei fabwysiadu a darparu ffynhonnell wybodaeth a chysylltiad dilynol.

    Mae ein gwaith ar y Fenter Twyll Genedlaethol yn paru data o fewn ac ar draws y cyrff cyhoeddus a sector preifat ledled y DU i ddarganfod amryfuseddau a allai fod o ganlyniad i dwyll. Cyhoeddwyd ein hadroddiad Menter Twyll Genedlaethol chwemisol fis Hydref diwethaf ac roedd yn nodi £5.4 miliwn o dwyll a gordaliadau posibl ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

    Yn fwy diweddar, rydym wedi cyhoeddi adroddiad ar gyfer Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol yn darparu trosolwg o’r trefniadau gwrthdwyll yn Sector Cyhoeddus Cymru. Rwy’n annog bob Cyfarwyddwr Cyllid a Chyfarwyddwyr darparu gwasanaethau i ddarllen yr adroddiadau hyn yn ofalus, oherwydd amcangyfrifir bod rhwng 0.5%-5% o’r gwariant yn cael ei golli i dwyll - swm sylweddol sydd yn anorfod yn gweithio yn erbyn y gwelliannau gwasanaeth y mae gwasanaethau cyhoeddus yn canolbwyntio mor daer ar eu darparu.

    Fis diwethaf, gwnaeth y Gyfnewidfa Arfer Da gynnal seminarau dysgu ar y cyd yn y gogledd a’r de ar wrthsefyll twyll.  Cefnogwyd y Gyfnewidfa gan gydweithwyr o Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Swyddfa’r Cabinet a Gwasanaethau Atal Twyll Cymru y GIG.  Mae'r adnoddau a gynhyrchwyd ar gael ar-lein i bawb eu defnyddio.

    Y neges amlwg gan y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiadau oedd nad oedd ganddyn nhw’r adnoddau i fuddsoddi mewn dulliau hollgynhwysol i ganfod twyll, felly yn hytrach roeddynt yn cofleidio’r angen i gynllunio camau rheoli twyll ataliol.  Hynny yw, canolbwyntio mwy ar atal twyll rhag digwydd yn y lle cyntaf, yna ei olrhain ar ôl iddo ddigwydd. Pwy all ddadlau â hynny?!

    Roedd neges arall yn ymwneud â chyfoeth y data a gaiff ei gadw ar draws gwasanaethau cyhoeddus a sut y gall rhannu’r data hwnnw’n briodol helpu i nodi twyll.  Roedd Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn awyddus i bwysleisio eu parodrwydd i gymryd rhan mewn trafodaethau o’r fath mewn modd cefnogol iawn, i helpu i oresgyn y rhagdybiaethau na ellir rhannu data yn ddiogel ac yn gyfreithlon.

    Yma yn Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r Archwilydd Cyffredinol – Adrian Crompton - yn dweud bod mwy o waith i’w wneud.  Roedd ei adroddiad diweddar yn disgrifio’r sefyllfa bresennol o ran trefniadau gwrth-dwyll ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn ddiweddarach eleni byddwn ni’n archwilio effeithiolrwydd y trefniadau hynny ac yn gwneud argymhellion ar gyfer eu gwella – felly cewch glywed mwy yn y man.

    Ynglŷn â’r Awdur

    steve-od-picturePenodwyd Steve O’Donoghue yn Gyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Dynol ym mis Ebrill 2014. Cyn hynny, mae ei yrfa yn cynnwys llywodraeth leol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae Steve yn uwch model rôl ar faterion Lesbiad, Hoyw, Deurywiol a Thrawsrywiol (LHDT+) ac yn aelod o Grŵp Diddordeb Cydraddoldeb SAC. Mae Steve hefyd yn aelod o Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus.