Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

17 Medi 2013 - 10:35yb

Aethom ati i archwilio trefniadau cyfl enwi ar gyfer absenoldeb athrawon mewn ysgolion mewn partneriaeth ag Estyn – Arolygiaeth ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae adroddiad Estynyn canolbwyntio ar sut mae absenoldeb athrawon yn effeithio ar gynnydd dysgwyr. Yn yr adroddiad hwn, gan ddefnyddio canfyddiadau Estyn, rydym yn ceisio ateb y cwestiwn ehangach, sef a yw dysgwyr, ysgolion a phwrs y wlad yn cael eu gwasanaethu’n dda gan drefniadau cyfl enwi ar gyfer absenoldeb athrawon.

13 Medi 2013 - 10:35yb

Roedd archwiliad allanol o gyfrifon cynghorau lleol ar gyfer 2011-12 yn dangos bod angen i gynghorau lleol roi ffocws clir ar wella’u trefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol.

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru

12 Medi 2013 - 10:35yb

Nod yr adroddiad hwn yw olrhain y cynnydd a wneir gan wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fynd i’r afael â’r prif faterion a godwyd gennym ym mis Rhagfyr 2009. Rydym hefyd yn anelu at amlygu’r prif heriau sy’n parhau a’r cyfleoedd ar gyfer gwella. Edrychodd ein hadolygiad ar y cynnydd o ran trawsnewid gwasanaethau gofal heb ei drefnu er mwyn mynd i’r afael â’r materion a nodwyd yng nghyhoeddiadau blaenorol Swyddfa Archwilio Cymru.

10 Medi 2013 - 9:49yb

Bob blwyddyn, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol gyfl wyno adroddiad yn nodi pa mor dda y mae cynghorau, awdurdodau tân ac achub, a pharciau cenedlaethol Cymru yn cynllunio ar gyfer gwella ac yn darparu eu gwasanaethau. Gan ddefnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol yng Nghymru, ynghyd â gwaith a gynhelir ar ei ran gan Swyddfa Archwilio Cymru, mae’r adroddiad hwn yn rhoi darlun o welliant dros y fl wyddyn ddiwethaf.

1 Medi 2013 - 1:20yp

Mae’r defnydd o systemau Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) a’r ddibyniaeth arnynt yn cynyddu. Mae argaeledd data a systemau TGCh cadarn yn chwarae rhan bwysig o ran cynllunio a darparu gofal sy'n canolbwyntio ar gleifion a rhaglenni gwella iechyd neu wyliadwriaeth ehangach yn seiliedig ar y boblogaeth. Rhan hanfodol o'r broses hon yw trefniadau effeithiol ar gyfer cadw copïau wrth gefn o ddata a gwybodaeth. Mae'r archwiliad hwn yn bwnc pwysig i gyrff y GIG sy'n dibynnu ar allu gweld data a gedwir mewn systemau TGCh.

1 Medi 2013 - 1:20yp

Gall lefelau uchel o salwch gael effaith andwyol ar allu sefydliad i gyflawni ei amcanion, costio llawer o arian, cymryd llawer o amser i’w rheoli, ac, yn y pen draw, effeithio ar ansawdd y gwasanaeth neu'r gofal a roddir i gleifion.

1 Medi 2013 - 1:20yp

Mae cyrff iechyd yn nodweddiadol yn berchen ar filoedd o eitemau o offer meddygol ac yn cynnal ac yn cadw'r eitemau hynny. Gall offer meddygol gyflawni swyddogaethau niferus megis diagnosis, atal, monitro, ymchwilio a thrin. Felly mae'n hanfodol bod cyrff iechyd yn rheoli eu hoffer meddygol mewn ffordd sy'n sicrhau diogelwch cleifion a gofal o ansawdd uchel. Mae offer meddygol, fel y'i diffinnir gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol, yn cynnwys pob dyfais feddygol sy'n gysylltiedig â chleifion fel rhan o'u triniaeth a'u gofal yn yr ysbyty, a dyfeisiau meddygol a ddefnyddir at ddibenion diagnostig a labordy.

1 Medi 2013 - 12:00yb

Mae rheolaeth Bwrdd Iechyd Cwm Taf ar bresgripsiynu gofal sylfaenol wedi’i chefnogi gan weledigaeth strategol eglur ac arweiniad da. Gwnaed cynnydd da yn sicrhau arbedion ariannol o bresgripsiynu mwy rhesymegol, er bod lefelau uchel o bresgripsiynu o hyd ac mae lle i wella ansawdd presgripsiynu mewn meysydd allweddol.

1 Awst 2013 - 4:41yp

Rhagnodi cyffuriau yw'r math mwyaf cyffredin o driniaeth ym maes gofal sylfaenol ac mae GIG Cymru yn darparu tua 75 miliwn o bresgripsiynau ym maes gofal sylfaenol bob blwyddyn sy'n cyfateb i tua £600 miliwn mewn costau meddyginiaeth. Mae'r swm blynyddol a gaiff ei wario ym maes gofal sylfaenol fesul pen o'r boblogaeth (£196) yn uwch nag yn Lloegr (£169) a'r Alban (£168). Hefyd, yn 2012, rhagnodwyd 24 o eitemau am bob unigolyn yng Nghymru, sy'n uwch na gweddill y DU ac mae hyn wedi cynyddu o 15 yn 2002.

Tudalennau