Cyhoeddiadau

Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Darganfod dogfennau

29 Chwef 2016 - 8:44yb

Ceisiai’r Asesiad Corfforaethol hwn ateb y cwestiwn canlynol: ‘A yw’r Cyngor yn gallu cyflawni ei flaenoriaethau a sicrhau canlyniadau gwell i’w ddinasyddion?

26 Chwef 2016 - 1:53yp

Cafodd y memorandwm hwn ei baratoi gan Archwilydd Cyffredinol Cymru er mwyn darparu gwybodaeth i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â threfniadau llywodraethu yn y GIG yng Nghymru, wrth i’r Pwyllgor ystyried tystiolaeth ynghylch trefniadau llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

25 Chwef 2016 - 4:16yp

Mae'r archwilio wedi canolbwyntio ar flaenoriaethau strategol yn ogystal â'r risgiau ariannol a gweithredol sylweddol sy'n wynebu'r Ymddiriedolaeth.

25 Chwef 2016 - 9:00yb

Heddiw, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol ei adroddiad ar sefydlu ac arolygu Cronfa Fuddsoddi Gwyddorau Bywyd Cymru. Edrychodd yr adroddiad ar sefydlu, llywodraethiant, arolygu a gweithrediad cynnar y Gronfa gan ystyried a wnaeth Llywodraeth Cymru a Chyllid Cymru sefydlu’r Gronfa ac arolygu ei gweithrediadau cychwynnol (yn cynnwys y tri buddsoddiad cyntaf) yn effeithiol.

12 Chwef 2016 - 1:42yp

Rhydd yr adroddiad hwn grynodeb sy'n deillio o ganfyddiadau y gwaith archwilio a gwblhawyd yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn ystod 2015.

11 Chwef 2016 - 12:01yb

Mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi cynnal archwiliad i’r dulliau a ddefnyddir yn genedlaethol ac yn lleol i reoli effaith ymarfer preifat ar ddarpariaeth y GIG.

4 Chwef 2016 - 12:01yb

Cwmpas cyffredinol ein gwaith oedd canfod a oes gan CNC drefniadau llywodraethu ar waith sy’n helpu i gyflawni ei brif flaenoriaethau a chanlyniadau, neu a yw’n datblygu trefniadau o’r fath.

1 Chwef 2016 - 11:40yb

Mae’r adroddiad hwn yn dilyn ein hadroddiad blaneorol ar gaffael ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gyhoeddwyd yn 2013, daethom i’r casgliad fod y Bwrdd Iechyd wedi mynd yn groes i’w CASau ei hun o ran tri chontract ymgynghori a oedd yn werth cyfanswm o tua £97,000. Mae’r adroddiad dilynol hwn yn gofyn ‘A yw’r ceisiadau i hepgor gweithdrefnau CASau yn cael eu dilyn ac a yw ein hargymhellion archwilio blaenorol wedi cael eu rhoi ar waith?’

28 Ion 2016 - 10:38yb

Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau arolwg o arweinwyr gwasanaetha cyhoeddus a wnaed fel rhan o’n hadroddiad Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2015.

14 Ion 2016 - 12:01yb

Dyma'r pumed adroddiad blynyddol ar gyfrifon cyrff llywodraeth leol. Mae’n crynhoi canlyniadau'r gwaith ar gyfer 2014-15 yn y mathau canlynol o gyrff llywodraeth leol (cyrff a archwilir) yng Nghymru: Awdurdodau unedol, Cronfeydd pensiwn llywodraeth leol, Comisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, Awdurdodau tân ac achub, Awdurdodau parciau cenedlaethol, Cydbwyllgorau & Awdurdodau porthladdoedd.

Tudalennau