Myfyrio ar Flwyddyn Un

Sut mae cyrff cyhoeddus wedi ymateb i ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015?

Mae ei adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, yn rhoi trosolwg o sut y mae cyrff y sector gyhoeddus yng Nghymru wedi ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Nod yr adroddiad – Myfyrio ar Flwyddyn Un: Sut mae Cyrff Cyhoeddus wedi Ymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? – yw cefnogi sefydliadu yn ystod y cyfnod pontio hwn ac mae’n cydnabod bod yr holl gyrff cyhoeddus ar daith i ddysgu sut i gyflawni deddfwriaeth sy’n feiddgar, yn uchelgeisiol ac â’r nod o ysgogi newid diwylliannol hirdymor yn y gwasanaethau cyhoeddus a chanlyniadau gwell i bobl. Dyna’r rheswm pam y mae’r adroddiad yn amlygu rhai astudiaethau achos o arferion newydd er mwyn helpu eraill i ddysgu a gwella.
Canfu’r adroddiad fod cyrff cyhoeddus yn gallu rhoi enghreifftiau o sut y maent wedi defnyddio’r Ddeddf i wneud y newidiadau sydd eu hangen er mwyn gweithredu’r egwyddor datblygu cynaliadwy yn effeithiol. Mae angen i gyrff cyhoeddus nodi yn awr sut y byddant yn parhau i ddatblygu eu hymagwedd at y Ddeddf er mwyn iddynt allu cyflawni’r uchelgais a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’n eu cynnig.

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA