Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol

-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Adroddiad Archwilio…
-
Cynllun Ffioedd 2021-22
-
Cyngor Sir Powys - Crynodeb Archwilio Blynyddol 2020
-
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru – Adroddiad…
-
Cyflawni’r Rhaglen Newid – Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau…
Mae angen y diwylliant, sgiliau a systemau cywir ar gynghorau er mwyn datgloi buddion masnacheiddio a lliniaru'r risgiau cysylltiedig
Mae ein hadroddiad yn dangos bod llywodraeth leol wedi ymdrin ag effaith cyni yn dda hyd yn hyn. Fodd bynnag, wrth i ddisgwyliadau y cyhoedd a'r galw am wasanaethau gynyddu, mae cynghorau'n wynebu dyfodol heriol.
Ynghyd ag effaith y pandemig COVID-19, maent hefyd yn gweithio, ac yn darparu gwasanaethau i gymunedau, mewn ffyrdd y gall fod wedi newid yn sylfaenol.
Mae cynghorau wedi ymgymryd â gweithgarwch masnachol ar ryw ffurf ers amser maith, ac mae llawer o gynghorau'n archwilio cyfleoedd masnachol ychwanegol i liniaru yn erbyn y pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu.
Wrth i dargedau ariannol fynd yn fwyfwy uchelgeisiol, mae angen ystyried ffyrdd gwahanol o wneud arbedion, diogelu gwasanaethau a chreu incwm. O ganlyniad mae masnacheiddio'n dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer cynghorau.
Mae'n hadroddiad wedi'i anelu'n benodol at helpu aelodau etholedig ac uwch-swyddogion i archwilio a dyfarnu ar yr effaith bosibl ar eu sefydliadau wrth ystyried a ddylid ymgymryd â gweithgareddau masnacheiddio. Bydd hefyd yn helpu cynghorau i ddangos pa mor dda y maent yn cyflawni eu cyfrifoldebau o safbwynt sicrhau gwerth am arian.