
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda – Asesiad Strwythuredig 2022
-
Gwneud y Mwyaf o Arian yr UE – y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a’r…
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe – Adroddiad Archwilio Blynyddol…
-
Cyngor Bro Morgannwg – Cymhwyso’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy mewn…
-
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – Adroddiad Archwilio…
Fe wnaethom adolygu trefniadau‘r Cyngor ar gyfer ymgysylltu â’r cyhoedd a chynnwys y cyhoedd wrth drefnu’r modd y darperir gwasanaethau. Fe wnaethom fwrw golwg ar y modd y mae’r Cyngor yn mynd ati’n strategol i gynllunio gweithgarwch ymgysylltu, sut y mae’n cyflawni gweithgarwch ymgysylltu, a sut y mae’n monitro ac yn gwerthuso effeithiolrwydd ei drefniadau.
Ar y cyfan, canfuom fel a ganlyn: Mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd da o ran gwreiddio’r deg Egwyddor Genedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â’r Cyhoedd, ond byddai cryfhau’r modd y mae’n cydlynu ac yn gwerthuso’i weithgarwch cynnwys yn dwyn budd pellach.