aaa
Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19

Yr oedd rhai cynghorau mewn sefyllfa well na’i gilydd i ymdrin ag effaith ariannol sylweddol y pandemig

Yn erbyn cefnlen o bwysau o ran cyllid a oedd eisoes yn bodoli, mae costau ariannol y pandemig yn ddigynsail yn y cyfnod modern.

Mae cyllid llywodraeth leol yng Nghymru wedi bod dan bwysau sylweddol am dros ddegawd, yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2008-09 a ysgogodd ddirwasgiad byd-eang difrifol.

Er bod effaith COVID-19 wedi cael ei lliniaru gan gymorth ariannol Llywodraeth Cymru hyd yma, mae cynaliadwyedd y sector yn y dyfodol yn her barhaus.

Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod bron i £500 miliwn o arian ychwanegol ar gael i gynghorau drwy'r gronfa caledi llywodraeth leol yn ogystal â sicrhau bod rhywfaint o arian arall ar gael gan gynnwys, er enghraifft, o ran cyllid ychwanegol i athrawon ar gyfer cymorth dal i fyny o addysg a deunyddiau glanhau i ysgolion. Mae hyn wedi lliniaru costau ychwanegol a cholledion incwm cynghorau lleol hyd yma, ond gan ddibynnu ar gwrs y pandemig yn y dyfodol, efallai y bydd diffyg sylweddol o ran cyllid i awdurdodau lleol o hyd yn ystod 2020-21.

Y meysydd mwyaf o bwysau cost cynyddol ar draws Llywodraeth Leol hyd yma yw gwasanaethau cymdeithasol ac addysg.

Mae cynghorau’n cael incwm o ystod o wasanaethau gan gynnwys cyfleusterau hamdden, parcio ceir, prydau mewn ysgolion a chludiant i ysgolion, ond amcangyfrifir bod y colledion mwyaf o ran incwm yn digwydd mewn gwasanaethau hamdden a diwylliannol.

Mae hefyd yn glir bod effaith ariannol y pandemig yn debygol o barhau trwy gydol 2020-21 ac i mewn i flynyddoedd yn y dyfodol.

Ein gwaith yn y dyfodol – ategu cynaliadwyedd ariannol a gwaith cynllunio adferiad

Dros 2020-21, yn gyson â’n hymrwymiad i ategu ymateb cyrff cyhoeddus i’r pandemig, byddwn yn gweithio gyda chynghorau i gael sicrwydd eu bod yn sefydlu trefniadau priodol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol.

Byddwn yn casglu a rhannu gwersi ac arfer mewn amser real ar draws y sector cyhoeddus.

Gallwch weld rhywfaint o'n gwaith COVID-19 presennol ar ein gwefan.

Hoffem gael eich adborth

CAPTCHA