Offer hygyrchedd

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Cyn y pandemig, roedd cynghorau'n wynebu cyllidebau tynn ac, yn ystod y degawd diwethaf, mae gwariant cynghorau wedi gostwng 8%.

    Mae benthyca cyhoeddus wedi cynyddu'n gyffredinol oherwydd y pandemig ac mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £660 miliwn o gyllid ychwanegol yn ogystal â chyllid ychwanegol arall ar gyfer cymorth, gan gynnwys cyllid i athrawon dalu am gost cymorth dal i fyny gydag addysg a deunyddiau glanhau.

    Er bod cynghorau wedi derbyn y cyllid tymor byr ychwanegol hwn gan Lywodraeth Cymru i dalu am golled mewn incwm a gwariant ychwanegol dros 2020-21, ac mae eu safle ariannol wedi gwella oherwydd y cyllid hwn, maent yn dal i wynebu heriau tymor hwy.

    Mae ein hadroddiad yn edrych ar gynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol yn ystod 2020-21 ac yn archwilio rhai o'r pwysau ariannol y mae cynghorau'n eu hwynebu.

    Yr hyn a ganfuwyd gennym

    Mae cyllid gan lywodraeth Cymru i helpu gyda'r pandemig wedi golygu bod cynghorau yn sefydlog yn ariannol am y tro ond yn wynebu rhai heriau yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau eu bod yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau lleol pwysig, mae angen iddynt ddatblygu a gweithredu strategaethau i gryfhau eu cynaliadwyedd ariannol.

     

    ,

    Cyhoeddi cysylltiedig

    Mae cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru yn golygu bod cynghorau'n sefydlog yn ariannol am y tro, ond mae heriau mawr o'n blaenau

    View more
CAPTCHA