
-
‘Gyda’n gilydd fe allwn ni’ – Cydnerthedd a hunanddibyniaeth…
-
Cyngor Gwynedd – Diweddariad ar Gynnydd Datgarboneiddio
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili – Adolygiad Sicrwydd ac Asesu Risg
-
Cynllun Ffioedd 2023-24
-
Cyngor Castell-nedd Port Talbot – Asesiad Sicrwydd a Risg 2021-22 –…
Mae ein memorandwm yn canolbwyntio ar y £41.79 miliwn a ddyrannwyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod 2020-21 a 2021-22.
Gwnaethom ystyried pum cwestiwn:
- Pam yn 2020-21 y rhoddodd Llywodraeth Cymru gymorth ychwanegol i'r Trydydd Sector yng Nghymru – drwy fwy o hyblygrwydd dros y cyllid presennol a hefyd rhywfaint o gyllid newydd – i ymateb i heriau uniongyrchol pandemig COVID-19;
- Faint o gymorth parhaus a ddarparwyd yn ystod 2021-22 i helpu i ddelio ag effeithiau parhaus y pandemig a chynyddu gwydnwch y Trydydd Sector;
- Sut y gweinyddodd Llywodraeth Cymru ei chymorth;
- Sut y gwnaeth Llywodraeth Cymru gydbwyso gofynion i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n briodol gyda'r angen i ymateb yn gyflym; a
- Faint o sefydliadau a gafodd gymorth, ar gyfer pa weithgareddau, ac a yw gwerthusiadau cychwynnol yn dangos canlyniadau llwyddiannus.