
-
Cyngor Sir Powys – Adolygiad Strategaeth Ddigidol
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Gosod amcanion llesiant
-
Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful – Defnyddio gwybodaeth am…
-
Adroddiad Cydraddoldeb 2022-23
-
Adolygiad Strategaeth Ddigidol – Cyngor Castell-nedd Port Talbot
Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (Asesiad EG) yn rhan bwysig o'r dull o fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru.
Mae Asesiadau EG yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i osgoi gwahaniaethu yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ac i hyrwyddo cyfleo cyfartal a chydlyniant.
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a dyletswyddau penodol Cymru yn berthnasol i gyrff cyhoeddus gan gynnwys cynghorau, cyrff GIG, gwasanaethau tân ac achub, parciau cenedlaethol, cyrff addysg (cyrff addysg bellach ac addysg uwch ac ysgolion a gynhelir), a Llywodraeth Cymru a rhai o'i chyrff a noddir.
Mae naw nodwedd warchodedig: oedran; anabledd; ailbennu rhywedd; priodas a phartneriaeth sifil; beichiogrwydd a mamolaeth; hil; crefydd neu gred; rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Yr hyn a ganfuwyd gennym
Fe wnaeth ein hadroddiad ganfod nad yw llawer o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb i'w llawn botensial, yn enwedig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.
Daethom o hyd i enghreifftiau o arfer da mewn rhai meysydd o'r broses ond mae ein hadroddiad yn nodi rhai meysydd allweddol i'w gwella.
Gwelsom hefyd fod Asesiadau EG weithiau'n cael eu cynnal yn hwyr iawn yn y broses o ddatblygu polisi, a bod angen i wasanaethau cyhoeddus ymgysylltu'n well â phobl â nodweddion gwarchodedig a monitro'r effaith unwaith y bydd polisi neu newid yn cael ei gyflwyno.