Gweithio gyda'n gilydd i ddarparu cyfrifon llywodraeth leol amserol ac o ansawdd

11 Rhagfyr 2025
  • Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru.

    Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn profi heriau ariannol difrifol a digynsail, wedi'u gyrru gan ofynion cynyddol am wasanaethau, chwyddiant cynyddol, a phwysau cyllido parhaus. O ystyried yr heriau hyn, ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd cynhyrchu cyfrifon ariannol o ansawdd uchel ac amserol.

    Mae adrodd ariannol cywir a thryloyw yn hanfodol ar gyfer atebolrwydd, gwneud penderfyniadau gwybodus, cydymffurfio, ac adeiladu ymddiriedaeth. Mae hefyd yn darparu darlun clir o iechyd ariannol corff. Ar ben hynny, mae cyfrifon ariannol o ansawdd da yn sylfaenol i broses archwilio llyfn ac effeithiol.

    Title Size Link
    Yn ôl i’r hanfodion: Sut mae papurau gwaith da yn edrych? 519.42 KB Link
    Golwg tua’r Dyfodol 476.92 KB Link
    Cyfoethogi Datganiadau Ariannol: Goresgyn Rhwystrau Prisio Eiddo, Offer a Chyfarpar ac Archwilio 280.1 KB Link
    Cynnal a Diwygio: Llunio Dyfodol Cyllid Llywodraeth Leol 414.71 KB Link