Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Trefniadau cyllido llywodraeth leol

  • pen a chyfrifiannell
  • Beth rydyn ni'n ei wneud

    Bydd yr archwiliad arfaethedig yn ymdrin â threfniadau ariannu cynghorau. Bydd yn edrych ar sut mae Llywodraeth Cymru yn cymryd sicrwydd bod ei threfniadau ar gyfer ariannu cynghorau yn eu helpu i sicrhau gwerth am arian.

    Pam rydyn ni'n ei wneud

    Mae cynaliadwyedd ariannol cynghorau wedi bod yn faes ffocws allweddol i Archwilio Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gwnaethom edrych ar gynaliadwyedd ariannol yn y ddau ar hugain o gynghorau unedol yng Nghymru yn 2024. Gwnaethom hefyd grynhoi rhai themâu cenedlaethol o'r gwaith hwn mewn adroddiad cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2024, ac roedd rhai o'r themâu hyn yn ymwneud â threfniadau ariannu.  Mae sicrhau bod trefniadau cyllido yn gadarn, yn dryloyw ac yn gywir yn allweddol i alluogi cynghorau i ddarparu gwerth cynaliadwy am arian yn eu defnydd o adnoddau.
     

    Pryd fyddwn ni'n adrodd

    Haf 2026