Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Y Senedd yn enwebu Catherine Mealing-Jones i'w phenodi fel Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru

04 Mawrth 2026
  • Mae'r Senedd wedi pleidleisio o blaid enwebu Catherine Mealing-Jones fel Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru.

    Mae'r broses benodi bellach yn symud i'w cham olaf sef penodiad ffurfiol gan ei Fawrhydi y Brenin.

    Mae Catherine ar fin ymgymryd â'r rôl ar 21 Gorffennaf, gan olynu Adrian Crompton sydd wedi gwasanaethu fel Archwilydd Cyffredinol ers 2018.

    Mae'r penderfyniad yn dilyn proses recriwtio drylwyr dan arweiniad Pwyllgor Cyllid y Senedd. Pleidleisiodd aelodau'r Senedd o blaid cymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor yn ystod eu sesiwn lawn ddydd Mercher 4 Mawrth.

    Mae Catherine yn dod â phrofiad arweinyddiaeth sylweddol mewn gwasanaeth cyhoeddus ac ar hyn o bryd mae'n brif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae ei gyrfa wedi cynnwys rolau uwch yn arwain polisi, rhaglenni a thrawsnewid mawr ar draws sectorau o'r gofod i gyfiawnder troseddol a gweithrediadau ffiniau.

    Dywedodd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru:

    "Rwy'n falch iawn bod y Senedd wedi enwebu Catherine i'w phenodi gan Ei Fawrhydi y Brenin. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda hi i sicrhau pontio llyfn pan fyddaf yn trosglwyddo'r awenau ym mis Gorffennaf. Rwy'n llongyfarch Catherine ac yn dymuno'r gorau iddi wrth iddi ymgymryd â'r rôl unigryw hon yng ngwasanaeth cyhoeddus Cymru."

    ,
    Fel Cadeirydd Bwrdd Archwilio Cymru, rwy'n falch iawn bod y Senedd wedi enwebu Catherine Mealing-Jones i'w phenodi gan Ei Fawrhydi y Brenin fel Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru.Edrychaf ymlaen at weithio gyda Catherine wrth i ni adeiladu ar y gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan Archwilydd Cyffredinol presennol Cymru, Adrian Crompton.Mae gwaith Archwilio Cymru yn hanfodol i'r sector cyhoeddus yng Nghymru a bydd y Bwrdd yn parhau i weithio'n agos gydag Adrian nes i'w dymor ddod i ben ym mis Gorffennaf. Rwy'n hyderus y bydd Catherine yn parhau â'r cydweithrediad agos â'r Bwrdd ar ôl iddi ddechrau'r rôl ym mis Gorffennaf 2026 i sicrhau bod arian cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol er budd gorau pobl ein gwlad. Dr Ian Rees, Cadeirydd Bwrdd Archwilio Cymru