Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae angen dull mwy cydlynol o reoli cymorth ariannol i fusnesau ar Lywodraeth Cymru

09 Tachwedd 2020
  • Mae'r dull presennol yn rhy 'dameidiog', ond mae'n dechrau cael ei ailwampio

    Ni wnaeth Llywodraeth Cymru lwyr wireddu ei gweledigaeth am adnewyddu economaidd mewn rhaglen gydlynol o gymorth ariannol i fusnesau, gan ganolbwyntio yn lle hynny ar reoli prosiectau unigol. Mae angen iddi hefyd ddangos yn fwy eglur yr hyn y mae'r cymorth hwn yn ei gyflawni.

    Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn dechrau ailwampio ei dull o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau, drwy weledigaeth strategol newydd. 

    Rhwng Ebrill 2014 a Mawrth 2017, neilltuodd tîm Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru oddeutu £219 miliwn i helpu busnesau i greu neu ddiogelu swyddi, a gwariwyd ychydig dros £167 miliwn ganddynt yn ystod yr un cyfnod. Mae'r arian hwn wedi cynorthwyo amrywiaeth o ddiwydiannau – gan gynnwys gweithgynhyrchu, adeiladu, y diwydiannau creadigol a’r gwyddorau bywyd. Mae dyfarniadau i fusnesau mawr yn tueddu i ddenu cyhoeddusrwydd, ond aeth hanner o'r cyllid newydd tuag at gefnogi swyddi mewn busnesau bach a chanolig. Er bod rhai busnesau proffil uchel wedi methu, gwnaeth y rhan fwyaf o'r prosiectau eraill a gefnogwyd gyflawni eu hamcanion a, phan na wnaethant, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gael oddeutu hanner yr arian a ddarparwyd yn ôl.

    Ond canfu'r adroddiad nad yw rhai busnesau wedi cael digon o eglurdeb ynghylch pa gymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a sut i gael mynediad ato. Daw i'r casgliad hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi monitro prosiectau unigol ar wahân, ond heb reoli cymorth ariannol i fusnesau fel rhaglen nac adrodd yn rheolaidd ar yr hyn y mae ei chymorth yn ei gyflawni'n gyffredinol.

    Canfu'r adroddiad nad yw'r systemau gwybodaeth presennol yn ei gwneud hi'n hawdd i Lywodraeth Cymru roi darlun llawn o'r cymorth ariannol a roddir a'i effaith. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ailwampio ei dull o ddarparu cymorth ariannol i fusnesau nawr drwy ddull strategol a model gweithredu newydd.

    Mae'r adroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen fwy cydlynol, a gefnogir gan wybodaeth reoli gynhwysfawr ac amserol, a dull mwy clir o ddiffinio a rheoli'r lefelau risg derbyniol ar lefel rhaglen.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Adrian Crompton: "Rhaid i Lywodraeth Cymru allu dangos yn glir ac yn dryloyw sut mae ei chymorth ariannol i fusnesau'n darparu gwerth am arian, drwy wella'r economi a chyfrannu at amcanion llesiant ehangach. Mae'r dull presennol yn rhy dameidiog. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi fy argymhellion ar waith, gall wella'r sefyllfa hon wrth iddi ddatblygu trefniadau i gefnogi ei Chynllun Gweithredu Economaidd newydd.”

    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau

    Gweld mwy