Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Awdurdod Cyllid Cymru yn “gweithio’n effeithiol” a Thrysorlys Cymru “yn cael sicrwydd priodol” ynghylch gweithrediad Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEM, meddai’r Archwilydd Cyffredinol
Mae Awdurdod Cyllid Cymru a Thrysorlys Cymru yn gweithio’n dda i weithredu cynlluniau i drosglwyddo rhai trethi a phwerau benthyg o Lywodraeth y DU i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Dyna ddywed adroddiad a gyhoeddwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Mae ei adroddiad diweddaru yn dod i’r casgliad bod Awdurdod Cyllid Cymru yn gweithredu’n effeithiol i weinyddu’r Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a gafodd eu trosglwyddo i Gymru ar 1 Ebrill 2018. Canfu hefyd bod gan Drysorlys Cymru drefniadau priodol ar waith ar gyfer cael sicrwydd ynghylch gweithrediad Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEM.
Sefydlwyd Awdurdod Cyllid Cymru i bob pwrpas i ddiwallu’r prif heriau. Mae wedi gweinyddu’r ddwy dreth a ddatganolwyd yn briodol hyd yn hyn ac wedi cymryd camau i allu ymateb i ddatblygiadau posibl yn y dyfodol gan gynnwys gweithio gyda Thrysorlys Cymru pan fo hynny’n briodol.
Mae cyfanswm cost gweithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru eto i’w gadarnhau’n derfynol ond amcangyfrifir ei fod rhwng £7.7 miliwn a £9.7 miliwn. Mae’r rhan fwyaf o’r gost honno yn ymwneud â gweithgaredd CThEM. Mae Trysorlys Cymru yn cymryd rhan weithredol yn y trefniadau i drosglwyddo cyfrifoldebau am Gyfraddau Treth Incwm Cymru i Gymru ac mae’n cael sicrwydd priodol gan CThEM ynghylch ei brosesau i nodi trethdalwyr Cymru. Mae’r dulliau a ddefnyddir i ragamcanu cyllid sy’n ddyledus i Gymru o Gyfraddau Treth Incwm Cymru yn briodol ac mae Trysorlys Cymru yn archwilio ffyrdd o wella data sylfaenol.
Canfu'r adroddiad fod Trysorlys Cymru a CThEM yn cyd-weithio’n effeithiol i gyfathrebu â’r cyhoedd ynghylch Cyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae’r cynlluniau i ymgysylltu yn glir, yn gymesur ac yn nodi mesurau llwyddiant yn eglur. Dylai canlyniadau’r arolwg ganiatáu i Drysorlys Cymru fesur ymwybyddiaeth y cyhoedd o Gyfraddau Treth Incwm Cymru dros amser ac i gynllunio gweithgaredd cyfathrebu ar gyfer y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn nodi nifer o feysydd i Awdurdod Cyllid Cymru ganolbwyntio arnynt, gan gynnwys:
Mae’r adroddiad hefyd yn nodi meysydd i Drysorlys Cymru ganolbwyntio arnynt o ran Cyfraddau Treth Incwm Cymru:
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton:
“Rwy’n falch o weld bod Awdurdod Cyllid Cymru a Thrysorlys Cymru yn gweithio’n dda i baratoi a chyflawni eu dyletswyddau ar gyfer cyflawni datganoli cyllidol yng Nghymru. Rydym ni’n parhau mewn cyfnod hollbwysig, gyda Chyfradd Treth Incwm Cymru yn cael ei chyflwyno mewn ychydig dros 3 mis. Mae fy adroddiad yn darparu rhai pwyntiau i’w hystyried a ddylai eu helpu i barhau â’r hyn sydd wedi bod yn weithrediad effeithiol hyd yma.”