Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Canfuom fod y system yn wynebu heriau sy’n bygwth ei chynaliadwyedd
Mae ein hadroddiad yn canolbwyntio ar y system sy’n cefnogi plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, yng nghyd-destun newidiadau a gyflwynwyd gan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf). Fe wnaethom ystyried a yw cyrff cyhoeddus yn deall y galw, capasiti a sgiliau’r gweithlu, costau a deilliannau lle mae ADY yn y cwestiwn.
Dengys ein canfyddiadau nad oes gan gyrff cyhoeddus ddarlun cyflawn o’r materion hyn, ac felly nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i gynllunio a chyllidebu’n effeithiol, ac i’w defnyddio i asesu gwerth am arian. Yn y pen draw, mae gennym bryderon ynghylch perfformiad cyfredol y system o ran cynorthwyo dysgwyr i wireddu eu llawn botensial. Nid yw’r darlun hwn yn unigryw i Gymru.
Yn 2024/25, cafodd 48,257 o ddysgwyr 0–25 oed eu cofnodi fel rhai ag ADY neu Anghenion Addysgol Arbennig (AAA). Fodd bynnag, mae ein hadroddiad ni’n egluro sut y mae hwn yn ddarlun anghyflawn.
Mae’r data sydd ar gael yn dangos gostyngiad o 58% yn nifer y dysgwyr mewn ysgolion a gofnodwyd fel rhai ag ADY neu AAA rhwng 2018/19 a 2024/25, y mae’r rhesymau drosto’n gynhennus. Dros yr un cyfnod fe wnaeth nifer y dysgwyr mewn ysgolion ag ADY sy’n cael cymorth statudol trwy ddatganiad o AAA neu, erbyn hyn, Gynllun Datblygu Unigol (CDU) gynyddu 164%.
Mae’r gwariant ar gefnogi dysgwyr ag ADY wedi bod yn cynyddu, gan roi pwysau ar gyllidebau ehangach. Er na allwn ganfod ffigwr pendant, mae’r symiau sy’n haws i ni eu hadnabod yn awgrymu bod gwariant blynyddol ar hyn o bryd bron yn £1 biliwn. Ond nid dyma’r darlun llawn, ac mae’r wir gost yn debygol o fod yn uwch. Fe gynyddodd y gwariant a gyllidebwyd gan gynghorau ar ADY neu AAA 34% mewn termau real rhwng 2018-19 a 2025-26.
Mae ein casgliadau’n seiliedig ar dystiolaeth sy’n dangos:
Mae ein hargymhellion yn canolbwyntio ar Lywodraeth Cymru a’i rôl fel galluogwr newid ar lefel genedlaethol. Serch hynny, bydd angen cynnwys ystod eang o gyrff cyhoeddus er mwyn rhoi ein hargymhellion ar waith yn llwyddiannus. Mae iddynt, felly, berthnasedd ehangach. Bydd cynigion y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori yn eu cylch yn ddiweddar yn effeithio ar gyrff eraill hefyd.
Mae plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn cynnwys rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Fe wnaed peth wmbredd o waith fel rhan o ymdrechion i ddiwygio’r system er gwell dros y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae’r system yn dal i fod dan straen ac mae llawer mwy y gellir ei wneud o hyd i sicrhau ei bod yn gwneud cystal ag y gall i’n plant a’n pobl ifanc, yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Rydym wedi creu offeryn data a fydd yn eich helpu i archwilio faint mae cynghorau yn ei gyllidebu ac yn ei wario ar wasanaethau ADY.
Rydym wedi creu fersiwn hawdd ei ddeall o’n hadroddiad anghenion dysgu ychwanegol. Gallwch lawrlwytho fersiwn PDF.