Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Adolygiad cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub i fynd i’r afael â gwendidau yn y model llywodraethu
Mae’r model llywodraethu ar gyfer Awdurdodau Tân ac Achub yn darparu fframwaith eglur ar gyfer gwneud penderfyniadau. Fodd bynnag, nid yw’r model yn sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu’r cyrff pwysig hyn yn adlewyrchu natur arbenigol eu gwaith.
Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys:
Mae holl aelodau Awdurdodau Tân ac Achub yn gynghorwyr, wedi’u henwebu gan eu hawdurdod cartref. Er bod hyn yn cydnabod pwysigrwydd cynrychiolaeth gymunedol, ceir perygl nad yw’r aelodau etholedig a enwebir yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sy’n adlewyrchu natur arbenigol y sector a’i swyddogaeth bwysig o ran diogelwch cymunedol.
Ynghyd â chyfradd trosiant gymharol uchel o aelodau, mae hyn yn golygu bod angen i Awdurdodau Tân ac Achub ddarparu hyfforddiant sylweddol i aelodau i ganiatáu iddynt gyflawni eu swyddogaethau. Fodd bynnag, canfuwyd gennym fod gweithgarwch hyfforddi a datblygu yn gyfyngedig - er enghraifft, nid yw bob amser wedi’i hysbysu gan anghenion aelodau. Canfuwyd gennym hefyd nad yw’r ddealltwriaeth o swyddogaethau a chyfrifoldebau allweddol o fewn y strwythur llywodraethu bob amser yn cael ei dangos yn ymarferol.
Canolbwyntiodd yr adolygiad cenedlaethol, a oedd yn rhan o raglen astudiaethau llywodraeth leol 2023-24 yr Archwilydd Cyffredinol, ar y trefniadau llywodraethu ar draws y tri Awdurdod Tân ac Achub yng Nghymru – Gogledd Cymru, De Cymru a Chanolbarth a Gorllewin Cymru. Ystyriodd ein hadolygiad bum elfen allweddol:
Mae Awdurdodau Tân ac Achub yn darparu gwasanaethau hanfodol ac mae’n bwysig eu bod yn cael eu llywodraethu mewn modd sy’n adlewyrchu’r cyhoedd a’r amgylchedd y maent yn eu gwasanaethu. Galwaf ar Lywodraeth Cymru ac Awdurdodau Tân ac Achub i gryfhau eu trefniadau llywodraethu a mynd i’r afael â’r gwendidau a amlygir yn fy adroddiad.