Tîm o staff yn barod am Her Tri Chopa Cymru

09 Tachwedd 2020
  • Mae rhai o’n cydweithwyr yn Swyddfa Archwilio Cymru yn barod i gymryd rhan yn Her Tri Chopa Cymru'r penwythnos hwn ar gyfer yr elusen, Changing Faces. 

    Mae’r daith, fydd yn cynnwys mynyddoedd Yr Wyddfa yn y Gogledd, Cadair Idris yng Nghanolbarth Cymru, a Phen y Fan yn y De, i gyd er mwyn codi arian at yr elusen Changing Faces, a ddewiswyd gan aelodau o staff yn y gynhadledd flynyddol y llynedd.

    Mae’r tîm eisoes wedi codi £2,061 a hoffem ddymuno llongyfarchiadau a phob lwc i’r tîm wrth iddyn nhw ddringo 30km mewn un diwrnod!