Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol, a gyhoeddwyd heddiw, yn datgelu bod dros £49.4 miliwn o dwyll a gordaliadau wedi eu canfod yng Nghymru ers i'r Fenter Twyll Cenedlaethol ddechrau yn 1996.
Mae’r Fenter Twyll Cenedlaethol yn ymarfer sy’n digwydd bod dwy flynedd sy'n paru data o fewn ac ar draws sefydliadau, systemau, a ffiniau cenedlaethol i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll neu wallau posib mewn hawliadau a thrafodion.
Gwnaeth ymarfer y Fenter Twyll Cenedlaethol 2020-21 helpu cyrff cyhoeddus Cymru i nodi £6.5 miliwn o dwyll a gordaliadau, ac felly gwnaeth warchod adnoddau ariannol sydd eu hangen i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Gwnaeth y Fenter Twyll Cenedlaethol yng Nghymru helpu sefydliadau mewn rhannau eraill o’r DU i adnabod 153 o achosion o dwyll a gwallau gyda chyfanswm o £183,045.
Gostyngodd gwerth canlyniadau Cymru yn y Fenter Twyll Cenedlaethol yn 2020-21 gan £1.5 miliwn o’i gymharu ag ymarfer blaenorol y Fenter. Y rheswm am y gostyngiad hwn yw bod nifer y ceisiadau twyllodrus neu wallus ar gyfer Gostyngiad i Bobl Sengl y Dreth Gyngor a budd-dal Tai a nodwyd dryw’r Fenter wedi lleihau. Cafodd y gostyngiad yn y deilliannau yn y meysydd hyn ei wrthbwyso'n rhannol gan gynnydd o ran canfod ceisiadau anghymwys ar gyfer tai cymdeithasol a hawliadau am grantiau cymorth busnes COVID-19. Er bod canlyniadau cyffredinol wedi gostwng, mae hyn yn rhannol oherwydd mater amseru. Dechreuodd llawer o gyfranogwyr y Fenter Twyll Genedlaethol adolygu pariadau’r Fenter yn hwyrach na'r arfer oherwydd pwysau gwaith yn deillio o bandemig COVID-19. Byddir yn adrodd ar arbedion hwyr o ganlyniad i Fenter Twyll Genedlaethol 2020-21 fel rhan o ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol yn 2022-23.
Fe wnaeth saith maes ddwyn bron i 98% o’r deilliannau. Y meysydd hyn oedd y rhain; budd-dal tai, taliadau credydwyr, gostyngiad treth cyngor, bathodynnau glas, grantiau cymorth busnes COVID-19, cynllun gostyngiad treth y cyngor a rhestrau aros.
Er bod y rhan fwyaf o gyfranogwyr y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru’n dangos ymrwymiad cryf i wrth-dwyll ac ymchwilio i bariadau'r Fenter, mae'r adroddiad yn amlygu mai ychydig iawn o’r pariadau a gawsant yr aeth rhai awdurdodau lleol ati i’w hadolygu, ac o ganlyniad ni wnaethant ddigon o waith i fynd i’r afael ag achosion posibl o dwyll.
Am y tro cyntaf, cafodd pariadau’r Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru eu cyfoethogi gan ddata CThEM a ddarparwyd dan ddarpariaethau Deddf yr Economi Ddigidol 2017. Mae data CThEM yn profi’n hynod effeithiol er mwyn helpu i adnabod ymgeiswyr sydd wedi hawlio budd-daliadau a disgowntiau sy’n dibynnu ar brawf modd ond nad ydynt wedi datgan incwm a ddylai fod wedi cael ei ddatgan ar eu ceisiadau. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at astudiaeth achos a oedd yn canolbwyntio ar y maes hwn.
bod nodi £6.5 miliwn yn yr ymarfer Menter Twyll Genedlaethol diweddaraf hwn yn gyfraniad pwysig i gyllido gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae'n bwysicach nag erioed bod gan sefydliadau lywodraethiant a rheolaethau cadarn ar waith i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol rhag y risg o dwyll. Mae llwyddiant y Fenter Twyll Genedlaethol yn ddibynnol ar natur ragweithiol ac effeithiolrwydd cyrff sy’n cyfranogi o ran ymchwilio i’r pariadau data, ac mae'n siomedig nad oedd rhai cyrff yn Nghymru wedi cymryd rhan yn ddigonol yn NFI 2020-21. Ond rwy'n cydnabod bod y cyrff cyhoeddus wedi wynebu pwysau sylweddol yn sgil pandemig COVID 19. Rydym yn argymell bod pob corff yn defnyddio ein rhestr wirio i hunan-werthuso eu rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol cyn ac yn ystod ymarfer y Fenter yn 2022-23.