Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Canfuwch fwy am ein penodiad newydd
Mae Ann-Marie Harkin wedi’i phenodi yn Gyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio yn Archwilio Cymru.
Bydd Ann-Marie yn arwain y gwaith o gyflawni rhaglen helaeth Archwilio Cymru o waith archwilio ariannol a pherfformiad ynghyd â sicrhau cyflawniad gweithredol ac ansawdd gwaith archwilio.
Mae Ann-Marie wedi gweithio ym maes archwilio proffesiynol drwy gydol ei gyrfa. Ymunodd â Swyddfa Archwilio Cymru pan ffurfiwyd yn 2005 ac ar hyn o bryd hi yw'r Cyfarwyddwr Archwilio Ariannol a'r Arweinydd Ymgysylltu ar nifer o gyfrifon gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Comisiwn y Senedd, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yn ogystal ag arwain ein cynlluniau hyfforddeion a phrentisiaid arobryn. Yn 2016 enillodd Ann-Marie wobr Merched Mewn Arweinyddiaeth yng Ngwobrau Arwain Cymru.
Cyn hyn, Ann-Marie oedd Ysgrifennydd Preifat Archwilydd Cyffredinol cyntaf Cymru ac roedd yn rhan o sefydlu swyddfa Archwilydd Cyffredinol Cymru ym Mae Caerdydd ac o sefydlu arferion a gweithdrefnau gwaith effeithiol i gefnogi Pwyllgor Archwilio'r Cynulliad Cenedlaethol. Ar ôl tair blynedd yn y swydd hon, daeth yn Rheolwr, yn rheoli archwiliadau ar gyfer y Cyngor Chwaraeon, Cyngor y Celfyddydau, y DVLA ac elusennau amrywiol.
Rwyf wedi cyffroi yn fawr ynglŷn â’r cyfle hwn. Mae Archwilio Cymru yn sefydliad gwych, ac rwy’n falch o ymgymryd â'r swydd hon ar adeg mor dyngedfennol i Wasanaethau Cyhoeddus. Yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf, rwy’n edrych ymlaen at fynd allan a chwrdd â chynifer o'n rhanddeiliaid allweddol â phosibl.
Mae'r broses recriwtio ar gyfer y swydd hon wedi bod yn helaeth ac yn drylwyr, a chafwyd ymgeiswyr ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector ac o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau proffesiynol. Roedd yr em yr oeddem yn chwilio amdani o dan ein trwynau wedi’r cyfan. O’r holl ymgeiswyr a ddaeth i'r amlwg drwy'r broses, safodd Ann-Marie allan o ran ei hegni a'i hangerdd dros Archwilio Cymru, eglurder ei gweledigaeth ar gyfer y swydd, ei chymysgedd o brofiad ac arbenigedd perthnasol a’r ffordd y mae’n gweddu i weddill yr uwch dîm newydd.
Bydd Ann-Marie yn dechrau ei swydd newydd ym mis Mawrth 2021.