Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae'r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi barn amodol ar gyfrifon 2020-21 Llywodraeth Cymru

12 Awst 2022
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi ei farn a'i adroddiad ar gyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 [yn agor mewn ffenestr newydd]. 

    Mae yntau wedi rhoi amod ar ei farn archwilio oherwydd:

    • bod gwariant perthnasol yn ymwneud â rhai grantiau busnes wedi'i gynnwys yng nghyfrifon 2020-21 yn lle cyfrifon 2019-20
    • bod hepgor perthnasol o ran gwariant yn ymwneud â rhwymedigaethau treth o ran pensiynau clinigwyr
    • nad oes digon o dystiolaeth briodol am drefniadau gwaith y cyn-Ysgrifennydd Parhaol o fis Ebrill 2018 ymlaen ac o ganlyniad a oedd ganddi hawl i gael taliad ac a gafodd y taliad hwnnw ei awdurdodi'n briodol.
    ,
    Roedd 2020-21 yn flwyddyn ryfeddol, gydag alldro adnoddau net Llywodraeth Cymru a adroddwyd yn gynyddu o £18.1 biliwn yn 2019-20 i £25.2 biliwn yn 2020-21.  Mae fy marn archwilio a'r adroddiad ar gyfrifon Llywodraeth Cymru yn dangos y materion a nodwyd yn ein gwaith. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am y materion hyn i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol