Mae Rhaglen Brentisiaethau Archwilio Cymru ar agor i wneud cais!

01 Mawrth 2022
  • Oes gennych ddiddordeb mewn ennill cyflog wrth ddysgu? Chwilio am rywbeth gwahanol i’r brifysgol i sbarduno’ch gyrfa?

    Yna hwyrach y bydd Rhaglen Brentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan i chi!

    At bwy mae'r Brentisiaeth wedi'i hanelu?

    Mae’r Rhaglen Brentisiaeth Cyllid Sector Cyhoeddus Cymru Gyfan yn cael ei rhedeg ar y cyd â chyrff eraill yn y sector cyhoeddus ledled Cymru, ac mae wedi'i chynllunio i ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr cyllid.

    Mae ein rhaglen lefel sylfaen yn eich ategu i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i fynd i’r afael â heriau'r dyfodol yn eich gyrfa.

    Beth sydd o dan sylw?

    Byddwch yn dilyn rhaglen brentisiaeth cyfnod penodol tair blynedd sy'n gweithio gyda'n timau ledled Cymru, i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau archwilio ac i helpu i graffu ar wasanaethau cyhoeddus a'u gwella.

    Bydd y rhaglen yn eich helpu i ennill cymhwyster cyllid adnabyddus Cymdeithas Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) tra'n gweithio i gorff gwarchod sector cyhoeddus Cymru.

    Drwy gydol eich prentisiaeth, byddwch yn datblygu sgiliau personol, proffesiynol, ariannol ac archwilio a hefyd yn dysgu sut i sefydlu a chynnal perthynas waith dda, yn fewnol ac yn allanol.

    Mae prentisiaid Archwilio Cymru hefyd yn dysgu ac yn datblygu sgiliau wrth weithio tra'n cefnogi archwiliadau ac yn magu hyder mewn sut i gynnal archwiliadau allanol.

    Mae gan brentisiaid hefyd gyfle i elwa ar secondiad o fewn corff sector cyhoeddus arall.

    Pam Archwilio Cymru?

    Fel prentis yn Archwilio Cymru, byddech yn rhan o dîm deinamig sy'n helpu i wneud gwahaniaeth i wasanaethau cyhoeddus a chymunedau yng Nghymru.

    Drwy ymuno ag Archwilio Cymru, rydych yn ymuno â sefydliad hyblyg gydag ymddygiadau HYDERus sydd o blaid creu diwylliant cynhwysol gyda chydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith. Rydym hefyd yn cynnig pecyn gwobrwyo a buddion hael.

    Yn Archwilio Cymru, mae dysgu a datblygu ein prentisiaid, yn bersonol ac yn broffesiynol, o bwys inni a dyna pam mae gennym system gyfeillion i helpu prentisiaid newydd i ymgyfarwyddo â’u swyddi newydd a darparu cymorth anffurfiol parhaus.

    Sut wyf yn gwneud cais?

    Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Brentisiaethau a sut i wneud cais ar ein tudalen brentisiaeth [agorir mewn ffenest newydd].

    Bydd ceisiadau'n cau ar 4 Ebrill 2022.