Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r pandemig cyfredol yn darparu cyfle go iawn i godi proffil a sicrhau gwelliannau i swyddogaeth sy’n tanategu’r data y mae’r GIG yn dibynnu arno
Mae codio clinigol yn dal i fod â phroffil isel ar lefel Byrddau, a gellid gwella trefniadau trwy fynd ati mewn modd beirniadol i archwilio lefel y buddsoddiad mewn adnoddau, gwybodaeth wreiddiol o ansawdd da ac ennyn ymgysylltiad staff meddygol â’r broses godio.
Mae codio clinigol amserol a chywir yn hanfodol i gynllunio, rheoli a goruchwylio gwasanaethau’r GIG. Yn ystod y pandemig cyfredol, bu gan godio clinigol rôl allweddol o ran goleuo penderfyniadau ynghylch pa gleifion y mae angen iddynt warchod eu hunain ac mae’n allweddol i ddeall y galw parhaus sy’n gysylltiedig â COVID-19 ar wasanaethau gofal iechyd.
Yn 2013-14 ac eto yn 2018-19, fe wnaethom archwilio trefniadau codio clinigol yn y saith bwrdd iechyd yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, a chyhoeddi’r adroddiadau ar gyfer pob un o gyrff y GIG ar ein gwefan.
Mae’r adroddiad yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw’n tynnu ar ein gwaith archwilio lleol i amlygu’r heriau a chyfleoedd cyfredol ar gyfer codio clinigol, gan gynnwys y potensial i ddefnyddio’r newidiadau a wnaed i ffyrdd o weithio yn ystod y pandemig i sicrhau ffyrdd newydd a mwy cynaliadwy o wneud gwaith codio.
Mae’r newid sylweddol o ran defnyddio llwyfannau digidol yn ystod y pandemig wedi creu cyfle i gyrff y GIG sicrhau bod cofnodion digidol yn cael eu defnyddio i raddau mwy helaeth, gan gynyddu gyda hynny’r cyfle i leihau’r amser a gymer i godio gweithgarwch, a rhoi cymorth ar gyfer ffyrdd mwy clyfar a hyblyg o weithio gan staff codio clinigol.
Rhai ffeithiau allweddol:
Mae codio clinigol yn swyddogaeth bwysig ond un sy’n aml yn cael ei hanwybyddu yn y GIG, a hithau’n darparu’r asgwrn cefn ar gyfer cryn dipyn o’r wybodaeth a ddefnyddir i lywodraethu gwasanaethau, ond nid yw proffil y swyddogaeth yng nghyrff y GIG mor uchel ag y mae angen iddo fod eto.Mae pwysigrwydd gwybodaeth o ansawdd da wedi dod yn flaenllaw yn ystod pandemig y coronafeirws a chyda ffyrdd newydd o weithio’n cael eu rhoi ar brawf yn ystod yr argyfwng, nawr yw’r cyfle delfrydol i sicrhau bod codio clinigol yn cael y sylw y mae angen iddo’i gael wrth i wasanaethau ddechrau cael eu hadfer.