Mae ceisiadau ar gyfer ein Cynllun Prentisiaeth Gweinyddu Busnes bellach ar agor

13 Mai 2021
  • Mae'n bleser gan Archwilio Cymru gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer ein Cynllun Prentisiaeth Gweinyddu Busnes bellach ar agor.

    A ydych am ennill sgiliau gweinyddu tra'n hyfforddi ar gyfer cymhwyster mewn Gweinyddu Busnes? Oes gennych chi ddiddordeb mewn gweithio i'r sector cyhoeddus? Yna efallai mai ein cynllun Prentisiaeth Gweinyddu Busnes yw'r swydd i chi!

    Am beth yr ydym yn chwilio?

    Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n frwdfrydig, sy'n gallu meithrin perthynas a chydweithio ag eraill, ac sydd wedi ymrwymo i ddysgu wrth iddynt weithio. Bydd ymgeiswyr hefyd yn awyddus i ymuno ag amgylchedd cyfeillgar a chynhwysol lle caiff datblygiad personol a phroffesiynol ei gefnogi a'i annog.

    Does dim cap oedran ar brentisiaethau Cymru ac rydym yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy'n gadael yr ysgol, y rhai sy'n chwilio am newid gyrfa neu sy'n dychwelyd i'r gwaith ar ôl cyfnod o amser i ffwrdd o'r gweithle.

    Pa swyddi sydd ar gael?

    Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio dau brentis, un i fod yn rhan o'n tîm Adnoddau Dynol (AD) ac un arall i eistedd o fewn Uned Fusnes y Gwasanaethau Archwilio.

    Bydd prentis o fewn yr adran Adnoddau Dynol yn rhan o dîm hanfodol sy'n cefnogi'r bobl sy'n gweithio yn Archwilio Cymru. Bydd llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd recriwtio, dysgu a datblygu, cyflogres, lles, cyfathrebu Adnoddau Dynol a'r system Adnoddau Dynol iTrent.

    Bydd prentis o fewn Uned Fusnes y Gwasanaethau Archwilio yn helpu i weinyddu'r rhaglenni graddedigion a phrentisiaid, yn helpu i weithredu'r systemau caffael, cynllunio staff a thaflenni amser ochr yn ochr â darparu cymorth gweinyddol ehangach i'r tîm.

    Bydd un o’r swyddi Prentisiaid Gweinyddu Busnes â sgiliau Cymraeg yn hanfodol.

    Mae’r dyddiad cau am geisiadau wedi’i ymestyn tan 6 Mehefin.

    Pam Archwilio Cymru?

    Fel lle i weithio, rydyn ni ychydig yn wahanol. 

    Rydym wirioneddol yn poeni am ein pobl ac yn cynnig diwylliant croesawgar ac amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

    Hefyd, byddwch yn gweithio o fewn sefydliad lle mae ein gwaith yn helpu i wneud gwahaniaeth i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau yng Nghymru.

    I gael gwybod mwy am sut beth yw bod yn brentis yn Archwilio Cymru, gwrandewch ar ein pennod podlediad, neu fe allwch ddarllen blog gan Rachel Brown am ei phrofiad hi.

    Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am ein cynlluniau prentisiaeth ar ein tudalen we prentisiaethau.