Lansio cylchlythyr Archwilio Cymru

01 Chwefror 2021
  • Rydym yn falch i lansio ffordd arall eto o rannu ein holl ymchwil ddiweddaraf i'r ffordd y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario, ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Cymru.

    Mae ein cylchlythyr yn dechrau'r mis hwn a bydd yn cynnwys dolenni i'n holl ganfyddiadau ac adroddiadau diweddaraf, yn ogystal â newyddion, blogiau, arolygon, prosiectau, ac unrhyw beth arall yr ydym wedi bod yn ei wneud.

    Bydd cylchlythyr newydd Archwilio Cymru yn fisol, a bydd yr un cyntaf yn cael ei anfon y mis hwn.

    Tanysgrifiwch heddiw ac chadw’n gyfoes ar bopeth ym myd archwilio yng Nghymru. Bydd eich manylion, wrth gwrs, yn aros yn breifat, a gallwch ddad-danysgrifio unrhyw bryd.