Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae holl gyllid Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE wedi ei ymrwymo i brosiectau, ond mae £504 miliwn yn dal ar gael i’w wario
Mae risgiau sylweddol yn cael eu rheoli gan WEFO a Llywodraeth Cymru i ddefnyddio cymaint o’r cyllid â phosibl, ond nid yw rhywfaint ohono o dan eu rheolaeth bellach
Mae Cymru wedi bod yn derbyn cronfeydd Ewropeaidd yn yr hirdymor, a’r rhaglenni mwyaf yw’r Rhaglen Cronfeydd Strwythurol, a reolir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO), a’r Rhaglen Datblygu Gwledig, a reolir gan gyfarwyddiaeth materion gwledig Llywodraeth Cymru.
Canfu ein hadroddiad bod WEFO a Llywodraeth Cymru wedi llwyddo i ymrwymo holl gyllid yr UE i brosiectau a mwy. Fodd bynnag, mae swm sylweddol o arian ar gael o hyd i’w wario erbyn diwedd 2023. Ar ddiwedd mis Mawrth 2023 roedd y ffigwr hwn yn £504 miliwn, gan gynnwys £446 miliwn ar gyfer y Rhaglen Cronfeydd Strwythurol a £58 miliwn ar gyfer y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Mae WEFO a Llywodraeth Cymru wedi wynebu rhai heriau sylweddol wrth fwrw ymlaen â’r rhaglenni cyllid, gan gynnwys effeithiau pandemig COVID-19 a chwyddiant uchel yn ddiweddar. Mae problemau yn y gadwyn gyflenwi a phrinder gweithwyr wedi effeithio ar y gallu i gyflawni prosiectau hefyd. Er gwaethaf y problemau hyn, mae holl gyllid yr UE a mwy wedi’i ymrwymo i brosiectau a buddiolwyr.
Fodd bynnag, mae WEFO a Llywodraeth Cymru yn rheoli rhai risgiau sylweddol i ddefnyddio cymaint â phosibl o gyllid yr UE, ond nid yw rhai o’r risgiau hyn bellach o dan eu rheolaeth. Mae risgiau allweddol yn cynnwys amrywiadau yn y gyfradd gyfnewid a dibyniaeth ar brosiectau a buddiolwyr i gyflawni fel y disgwyliwyd. Mae sicrhau trylwyredd parhaus wrth wirio hawliadau a chadw cofnodion da, wedi’i gefnogi gan staffio priodol, hefyd yn bwysig i reoli’r risg y caiff cyllid ei adhawlio wedi hynny gan yr UE.
Rhwng y ddwy raglen wedi’u cyfuno, mae pob 1% o grant yr UE na chaiff ei wario yn gyfartal i £27 miliwn. Fodd bynnag, mae rheoli’r rhaglenni yn dasg o gydbwyso. Er ei bod yn arfer cyffredin, gan fod yr ymrwymiadau i brosiectau a buddiolwyr yn uwch na’r grant UE sydd ar gael, os caiff yr holl gyllid sydd wedi ei ymrwymo ei hawlio yna bydd angen i Lywodraeth Cymru ariannu gwariant dros 100% grant yr UE.
Rwy’n sylweddoli ei bod yn her ceisio gwario cymaint â phosibl o gronfeydd yr UE sy’n weddill. Mae cwblhau’r rhaglenni yn brin yn golygu colli arian i Gymru ond byddai eu cwblhau yn y cyfeiriad arall yn gallu golygu bil sylweddol i Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf amgylchiadau anodd, mae’n galonogol gweld bod WEFO a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo holl gyllid yr UE a bod y rhaglenni ar drywydd cadarnhaol o ran gwariant. Mae angen cynnal y cynnydd hwnnw gan hefyd reoli risgiau sylweddol a sicrhau gwerth am arian.