Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Roedd trefniadau llywodraethu a goruchwylio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent mewn perthynas â’i gwmni gwastraff ei hun, Silent Valley Waste Services Limited, yn annigonol ac aneffeithiol, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Fodd bynnag, mae’r Cyngor wedi sefydlu trefniadau gwell i gryfhau ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â Silent Valley.
Mae dyletswydd ar yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i sicrhau bod adnoddau cyhoeddus o fewn eu stiwardiaeth yn cael eu diogelu a’u bod wedi sefydlu trefniadau priodol i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario’n dda. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol nid dim ond i adnoddau cyhoeddus a ddefnyddir yn uniongyrchol gan awdurdodau lleol, ond mae’n ymestyn i adnoddau cyhoeddus a ddefnyddir gan gwmnïau y mae awdurdodau lleol yn berchen arnynt a/neu’n eu rheoli.
Cwmni y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent yn berchen arno ac yn ei reoli yw Silent Valley Waste Services Limited (Silent Valley).
Codwyd pryderon gyda’r Archwilydd Cyffredinol ynghylch y berthynas rhwng y Cyngor a Silent Valley, ac fe benderfynodd yr Archwilydd Cyffredinol archwilio pa un a oedd y Cyngor wedi sefydlu trefniadau llywodraethu a goruchwylio effeithiol mewn perthynas â Silent Valley.
Mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn dod i’r casgliad bod y Cyngor wedi methu â sefydlu trefniadau cadarn ac effeithiol ar gyfer ei berthynas â Silent Valley rhwng 2003 a 2017. Canfu’r archwiliad nifer o bryderon arwyddocaol ynghylch digonolrwydd trefniadau’r Cyngor a chanfu fod y Cyngor wedi methu â gwneud y canlynol:
Ers i archwiliad yr Archwilydd Cyffredinol ddechrau mae’r Cyngor wedi cymryd camau i fynd i’r afael â’r diffygion hirsefydlog yn ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â Silent Valley. Felly mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi penderfynu gwneud un argymhelliad yn unig yn yr adroddiad hwn – y dylai’r Cyngor gomisiynu adolygiad i geisio sicrwydd bod ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â chwmnïau eraill y mae ganddo fudd ynddynt yn ddigonol ac effeithiol, ac nad yw’r diffygion a nodir yn yr adroddiad hwn yn rhai mwy cyffredinol.
Mae’r saga a gwmpesir gan fy adroddiad yn dangos y canlyniadau difrifol a’r niwed i ymddiriedaeth y cyhoedd sy’n codi pan fo awdurdodau lleol yn methu â sefydlu trefniadau llywodraethu priodol ar gyfer eu perthnasoedd â sefydliadau eraill. Mae’r ymddygiadau a’r methiannau a barhaodd dros nifer o flynyddoedd yn codi cwestiwn difrifol ynglŷn â diwylliant sefydliadol y Cyngor yn ystod y cyfnod y mae a wnelo’r adroddiad hwn ag ef. O dan arweinyddiaeth ei Reolwr Gyfarwyddwr presennol, mae’r Cyngor wedi cymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r diffygion yn ei drefniadau llywodraethu a goruchwylio mewn perthynas â Silent Valley. Yn fy marn i mae angen i’r Cyngor hefyd ei argyhoeddi ei hun nad yw’r diwylliant a gyfrannodd at y diffygion a ganfuwyd gan fy archwiliad yn bodoli mwyach. Byddai’n ddoeth i gynghorau eraill ystyried y materion a godir yn yr adroddiad hwn a sicrhau bod eu trefniadau llywodraethu a goruchwylio hwythau mewn perthynas â chwmnïau y maent yn berchen arnynt ac yn eu rheoli’n addas ar gyfer y diben.