Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru yn cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol cyntaf, ar y cyd â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
Mae Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru, Adrian Crompton, wedi amlinellu uchelgais newydd ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru – i wireddu ei photensial llawn ac i sbarduno gwelliannau. Bwriedir i'r Cynllun Blynyddol, a gyhoeddir heddiw ar y cyd â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, wneud y sefydliad yn fwy beiddgar, yn fwy perthnasol ac yn fwy uchelgeisiol.
Swyddfa Archwilio Cymru yw'r corff sy'n gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'n archwilio gwerth tua £19 biliwn o arian trethdalwyr; bron i draean o gynnyrch domestig gros (GDP) Cymru. Mae'n gwbl annibynnol ar y llywodraeth.
Mae'r Cynllun Blynyddol a gyhoeddir heddiw yn cyflwyno rhaglen waith arfaethedig y sefydliad dros y 12 mis nesaf, ynghyd â rhai uchelgeisiau hirdymor.
Mae'n nodi diben y sefydliad – rhoi sicrwydd, egluro ac ysbrydoli:
Mae'r Cynllun yn tynnu sylw at bedwar uchelgais allweddol er mwyn gwireddu potensial llawn Swyddfa Archwilio Cymru, sef:
I gyflawni'r uchelgeisiau hyn ac ymateb yn effeithiol i'n hamgylchedd gweithredu, mae'r Cynllun hefyd yn nodi rhai ymrwymiadau allweddol o ran newid ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, gan gynnwys trawsnewid y ffordd rydym yn cael gafael ar ddata ac yn eu dadansoddi, gan ystyried ffyrdd newydd o ddylanwadu ar ffordd o feddwl ac ymddygiad eraill, a bod yn fwy rhagweithiol wrth helpu cyrff cyhoeddus i drechu twyll a llygredd.
Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton:
'Dros y chwe mis diwethaf, ers ymgymryd â'r swydd, rwyf wedi treulio llawer o amser yn gwrando ar gyrff cyhoeddus ledled Cymru a'r staff yn Swyddfa Archwilio Cymru, yn ogystal â siarad â nhw. Mae'r uchelgeisiau yn y Cynllun Blynyddol hwn yn adlewyrchu llawer o'r hyn rwyf wedi'i glywed. Mae pobl yn gwerthfawrogi'r gwaith a'r cyfraniadau a wnawn. Ond rwy'n gwybod y gallwn fod hyd yn oed yn fwy effeithiol wrth sbarduno gwelliannau mewn meysydd sydd bwysicaf i bobl Cymru. Mae'r cynllun hwn yn nodi sut y bwriadwn wneud hynny.'
Dywedodd Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru, Isobel Everett:
'Y Cynllun Blynyddol hwn yw ein cynllun mwyaf uchelgeisiol hyd yma – o ran datblygu Swyddfa Archwilio Cymru gref ac effeithiol sy'n chwarae rôl gadarnhaol a hanfodol yng Nghymru. Rydym yn canolbwyntio ar drawsnewid ein busnes; moderneiddio ein dulliau archwilio a chryfhau ein galluoedd i fod yn sefydliad sy'n dangos esiampl, sy'n cael ei barchu, ei werthfawrogi ac y gwrandewir arno.'
Gallwch weld yr uchafbwyntiau yn ein crynodeb fideo.