Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Chwalu Rhwystrau yn Wythnos Mewnwelediad Gwaith a Sgiliau

07 Gorffennaf 2022
  • Rydym wrth ein bodd i gydweithio â chynrychiolwyr eraill o'r sector cyhoeddus yn ne-ddwyrain Cymru i gynnal y digwyddiad Partneriaeth Busnes Symudedd Cymdeithasol cyntaf.

    Mae eisoes yn rhaglen sydd wedi hen ennill ei phlwyf yn Lloegr, rydym yn gyffrous i fod yn gweithio ar y prosiect cyntaf yng Nghymru.

    Beth sydd o dan sylw?

    Y partneriaid sy'n cymryd rhan yw Llywodraeth Cymru, Academi Gyllid GIG Cymru, Heddlu Gwent, Archwilio Cymru a Chyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

    Beth yw'r digwyddiad?

    Bydd myfyrwyr chweched dosbarth a chynrychiolwyr o'r sector cyhoeddus yn dod at ei gilydd rhwng 25 a 29 Gorffennaf ar gyfer Wythnos Mewnwelediad Gwaith a Sgiliau. Rydym yn cynnal wythnos lawn o weithgareddau gyda'r nod o gefnogi myfyrwyr o gefndiroedd incwm isel wrth iddynt ddilyn gyrfa broffesiynol. Y bwriad yw ceisio chwalu rhwystrau 'ffitio i mewn' seicolegol a datblygu ymwybyddiaeth a sgiliau masnachol myfyrwyr, ac mae cyrff sector cyhoeddus Cymru sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn awyddus i gyflawni'r amcanion hyn.

    Pa weithgareddau y bydd myfyrwyr yn cymryd rhan ynddynt?

    Bydd myfyrwyr yn profi cymysgedd o wahanol weithgareddau, megis:

    • Clywed arweiniad a straeon gyrfa gan gymysgedd o staff o hyfforddeion a phrentisiaid i arweinwyr ar draws ystod o gyrff yn y sector cyhoeddus;
    • Gweithgareddau rhyngweithiol hwyliog yn y gwaith a ddarperir gan bartneriaid, gan ganolbwyntio ar ddatblygu sgiliau allweddol megis gwaith tîm, arloesi, datrys problemau, perswadio, trafod a sgiliau cyflwyno;
    • Ymarferion a hunanfyfyrio i nodi sgiliau a phrofiadau y gellir eu defnyddio a'u haddasu i gefnogi ceisiadau prifysgol ac adeiladu CV;
    • A dysgu am wydnwch a gosod amcanion.

    Rydym yn gyffrous i gynnal wythnos arloesol a rhyngweithiol o weithgareddau, a gobeithiwn mai dim ond dechrau'r cydweithio rhwng Partneriaeth Busnes Symudedd Cymdeithasol a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yw hyn. Mae gan bob myfyriwr hawl i'r un lefel o hyder a pharatoi wrth fynd i fyd gwaith, waeth beth fo'i gefndir, a chredwn fod Wythnos Mewnwelediad Gwaith a Sgiliau'r haf hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir.