Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Gweld ein swyddi diweddaraf
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae'r rhaglen yn rhaglen 40 mis, sy'n rhoi cyfle i chi gefnogi'r rhaglen waith dadansoddi data wrth astudio ar gyfer gradd mewn gwyddor data fel rhan o brentisiaeth lefel 6.
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Gan ddefnyddio trefniadau gweithio hyblyg, llwyddom i gyflawni rhaglen waith lawn ar gyfer 2021-22.
Rydym wedi cyhoeddi ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2021-2022.
Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hwn yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaethom o ran cyflawni’r rhaglenni gwaith archwilio a nodir yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2021-22, ochr yn ochr â’n datganiadau ariannol a datganiadau atebolrwydd.
Mae detholiad o astudiaethau achos wedi’u cynnwys yn yr Adroddiad i roi mwy o ddealltwriaeth o rai o’r prosiectau yr ydym wedi bod yn ymwneud â nhw a’r cyfraniad y mae’r gwaith hwnnw wedi’i wneud.
Mae ein gwaith arfaethedig wedi’i rannu’n fras yn ddwy adran – cyflawni archwiliadau a chynnal y busnes.
O ran ein gwaith archwilio, mae 2021-22 wedi bod yn flwyddyn heriol gydag effaith barhaus pandemig COVID-19 yn dal i achosi rhai ymyriadau, fodd bynnag, drwy ddefnyddio trefniadau gweithio hyblyg roeddem yn gallu cyflawni rhaglen waith lawn o safon uchel.
Rydym wedi gweld rhywfaint o newid eleni o ran cynnal y busnes, gan gynnwys adolygiad sylweddol o deithio a chynhaliaeth. Cwblhawyd y mater sensitif hwn ym mis Ionawr 2022 yn dilyn ymgynghoriad helaeth ar gynigion amgen a ddatblygwyd gan grŵp gorchwyl a gorffen staff. Rydym hefyd wedi bod yn ystyried y ffordd orau o ddefnyddio ein hystâd yn y dyfodol.
Yn fwy cyffredinol, datblygwyd strategaeth bum mlynedd ar gyfer Archwilio Cymru, i ddarparu canolbwynt tymor hirach ar gyfer ein gwaith na’r Cynlluniau Blynyddol y mae’n statudol ofynnol i ni eu cynhyrchu. Gyda chynlluniau busnes manylach wrth ei gwraidd, bydd y strategaeth yn cyd-dynnu ac yn llywio ein gwaith dros y blynyddoedd nesaf, gan ganolbwyntio’n benodol ar ansawdd ac effaith
Gyda’r adolygiad o’n cynllun teithio a chynhaliaeth yn gefndir ynghyd â’r heriau o weithio o bell estynedig, nid oeddem yn synnu o weld bod boddhad gweithwyr wedi gostwng rhywfaint yn ein harolwg pobl blynyddol. Er bod llawer yn y sefydliad yn teimlo bod Archwilio Cymru wedi rheoli effaith COVID yn dda, mae’n amlwg bod meysydd o fywyd sefydliadol angen ein sylw. O ganlyniad, gwnaethom gytuno i ganolbwyntio ar gyfres o gamau gwella ledled y sefydliad dros y flwyddyn i ddod.
Rydym wrth ein bodd ein bod, yn ystod blwyddyn heriol, wedi llwyddo i gyflawni ein rhaglen lawn o waith archwilio ar gyfer 2021-22 i safon o ansawdd uchel. Mae ein llwyddiant wrth barhau i gyflawni archwiliadau amserol o ansawdd da yn adlewyrchu ymdrech fawr ar y cyd gan ein staff a chydweithwyr mewn cyrff cyhoeddus i fabwysiadu ffyrdd newydd o weithio a hyblygrwydd. Rwy’n ddyledus i holl staff Archwilio Cymru am eu proffesiynoldeb, eu gwaith caled a’u hymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus drwy gydol y 12 mis diwethaf.
Dros y deuddeg mis diwethaf, gwnaethom barhau i fonitro’n fanwl sefyllfa COVID-19 sy’n esblygu a gweithredu yn unol â chanllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Parhaodd ein blaenoriaethau o ran cynnal y busnes i gynnwys addasu a lleihau ymyrraeth ar ein gwaith archwilio a’r gwaith o arfer ein swyddogaethau gwasanaeth corfforaethol, gan hefyd sicrhau ein bod yn trin ein pobl yn deg, gan eu cadw’n ddiogel a monitro eu llesiant. Un o’r blaenoriaethau ar gyfer 2021-22 oedd cwblhau adolygiad o’n cynllun teithio a chynhaliaeth. Rydym yn ddiolchgar i’n cydweithwyr yn yr Undebau Llafur am weithio gyda’r rheolwyr drwy drafodaethau ffurfiol ddiwedd 2021, ac rydym yn falch o adrodd bod staff wedi ymrwymo i’r trefniadau newydd erbyn hyn.